Cogyddion
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder am brinder cogyddion

22 Gorffennaf 2015 Diweddarwyd 21:09 BST

Mae angen mynd i'r afael â'r prinder cogyddion yng Nghymru, yn ôl sawl perchennog busnes gafodd eu holi gan Newyddion 9.

Mae 'na ddarogan cynnydd mawr yn y galw dros y pum mlynedd nesaf.

Dafydd Gwynn aeth ar grwydr i Ynys Môn ac mae ei daith yn dechrau mewn bwyty yn Llanfaethlu, oedd a thrafferthion recriwtio nes yn ddiweddar.