Safonau iaith yn 'rhy fiwrocrataidd,' yn ôl mudiad

Cyngor Wrecsam
Image caption Mae Cyngor Wrecsam yn dweud y bydd yn costio £700,000 y flwyddyn i gydymffurfio â'r safonau

Mae safonau iaith yn rhy fiwrocrataidd i hybu twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ôl mudiad Dyfodol i'r Iaith.

Prif weithredwr y mudiad, Ruth Richards, sy' wedi rhybuddio y gallai natur y safonau roi esgus i sefydliadau ddadlau bod eu dyletswyddau i'r iaith yn ormodol.

Daeth y cyfnod ymgynghori ar y safonau i ben ar 20 Gorffennaf ac mae hi wedi dod i'r amlwg bod nifer o gynghorau yn pryderu am gost cydymffurfio â'r rheolau.

'Esgus'

Dywedodd Ms Richards wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru: "Y perygl 'dan ni'n ei deimlo ydi bod y safonau iaith yn rhy fiwrocrataidd i gyflawni'r twf 'dan ni wir ei angen.

"Gan eu bod nhw mor fiwrocrataidd, maen nhw'n rhoi esgus i gyrff allu dweud bod eu dyletswydd craidd nhw tuag at y Gymraeg yn un llethol."

Mae Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau Cyngor Wrecsam, wedi ysgrifennu at Comisiynydd yr Iaith i ddadlau y byddai cydymffurfio yn costio £700,000 y flwyddyn yn ychwanegol.

Dywedodd fod hyn yn arbennig o anodd o gofio toriadau i gyllideb yr awdurdod.

'Peryglu'

Yn y llythyr mae Mr Jones wedi rhybuddio y bydd gwasanaethau eraill yn dioddef os oes rhaid i'r awdurdod wneud rhagor o doriadau er mwyn gallu gweithredu gofynion y safonau.

"Yn ogystal â'n cyfrifoldebau statudol, rydym yn ymroi i hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg drwy ein llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ac yn rhoi cymorth sylweddol i'r Stiwt," meddai.

"Mae'r Stiwt yn ogystal â bod yn ganolbwynt lleol yn ffocws i'r diwylliant Cymraeg.

"Os cawn ein gorfodi i wneud arbedion yn y gyllideb er mwyn cydymffurfio â'r 30 Safon, yna byddwn yn peryglu ein gallu i gynorthwyo mentrau tebyg i'r Stiwt ac, yn wir, ein gwasanaethau llyfrgell a threftadaeth."

Mae wedi dadlau mai dim ond 2% o bobl sy'n gwneud defnydd o'r gwasanaethau Cymraeg.

Image caption Mae Cyngor Môn yn dweud nad ydyn nhw'n rhagweld oblygiadau sylweddol o ran costau

Ond dywedodd y Cynghorydd Arfon Jones: "Mae'r gwasanaethau mae Cyngor Wrecsam yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg, os ydi o'n e-bost, ar y cyfryngau cymdeithasol neu'n wefan - i gyd yn israddol.

"Does yna neb am ddefnyddio gwasanaethau israddol os oes yna wasanaethau gwell ar gael.

"Dwi'n meddwl mai'r rheswm mae mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau Saesneg yn hytrach na Chymraeg ydi bod y cyngor yn ei gwneud hi'n anfanteisiol i bobl ddefnyddio'r Gymraeg."

Nid Cyngor Wrecsam yn unig sydd wedi mynegi pryder am gost cydymffurfio â'r safonau iaith. Mae Cyngor Torfaen, er enghraifft, wedi amcangyfrif cost ychwanegol o £680,000 y flwyddyn.

Yng Nghaerfyrddin mae'r cyngor wedi amcangyfrif y bydd cyflogi mwy o gyfieithwyr er mwyn ceisio cydymffurfio â'r safonau yn costio rhyw £110,000 y flwyddyn.

Ar y llaw arall, mae Cyngor Môn, sydd eisoes yn darparu rhan fwyaf o'u gwasanaethau'n ddwyieithog, wedi dweud nad ydyn nhw'n rhagweld oblygiadau sylweddol o ran costau.

Image caption Bydd y comisiynydd Meri Huws yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio terfynol i'r sefydliadau ym mis Medi

Mae swyddfa Comisiynydd yr Iaith wedi dweud nad yw'n briodol i'r comisiynydd wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd oherwydd ei bod wrthi'n rhoi ystyriaeth lawn i'r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Bydd y comisiynydd Meri Huws yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio terfynol i'r sefydliadau unigol ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mater i Comisiynydd y Gymraeg yw penderfynu pa safonau i osod ar awdurdodau lleol unigol."