Ymchwiliad i farwolaeth bachgen yn parhau

Ashley Talbot Image copyright Heddlu'r De
Image caption Clywodd y gwrandawiad y byddai adroddiad yr heddlu'n cymryd tri mis arall

Mae gwrandawiad cyn cwest bachgen fu farw ar ôl cael ei daro gan fws mini ar safle ysgol wedi clywed bod yr ymchwiliad yn parhau.

Cafodd Ashley Talbot, 15 oed, ei daro gan fws oedd yn cael ei yrru gan athro addysg gorfforol, Chris Brooks, yn Ysgol Maesteg fis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd y Sarjant Gethin Hewitt wrth y gwrandawiad yn Aberdâr y byddai adroddiad Heddlu'r De yn cymryd tua thri mis arall i'w gwblhau.

Clywodd y gwrandawiad bod yr ymchwiliad "cymhleth a manwl" yn parhau a chafodd y cwest ei ohirio tan 5 Tachwedd.