Saith Diwrnod

sioe
Image caption Y Sioe Frenhinol sydd wedi bod yn mynd a sylw Jo Blog yr wythnos yma

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn mae colofnydd newydd Cymru Fyw, Jo Blog yn cael cyfle i fynegi ei farn amdano.

Yr wythnos hon, bu Jo yn y Sioe Frenhinol. Wrth gwrs, dywed, dosbarth ydy popeth yn y 'Royal Welsh'.

Ar y cyfan, gwyn, dosbarth canol, llewyrchus yr olwg (er gwaethaf pob 'caledi amaethyddol') oedd y dorf yn Llanelwedd. Ond, tlodaidd yr olwg oedd y bobl oedd yn glanhau.

Yn ôl Jo, mae dosbarth i ebol blwydd ac i ebol teirblwydd. Dosbarth i iâr fawr flewog ac un arall i golomen ungoes frith o Bacistan. Dosbarth i'r Belgium Blues a'r Welsh Blacks ac un arbennig i'r casglwyr sbwriel hefyd, wedi eu dofi gan dlodi efallai.

…a gyda llaw, mae aelodau tîm Cymru Fyw yn awyddus i dynnu eich sylw at y ffaith nad ydyn nhw erioed wedi gweld Jo Blog yn eu swyddfeydd... nag ar faes y Sioe Fawr. Hmmm…

Image caption Mae Gwyn Llewelyn wedi beirniadu rhai o newyddiadurwyr y BBC am eu Cymraeg gwallus a diddychymyg

Newyddiadurwr arall sydd, yn ôl y Cymro, yn llinach hir prifddinas yr inc, ond sy'n ddigon pigog ar hyn o bryd, yw Gwyn Llewelyn.

Mae gan Gwyn golofn ym mhapur bro Caernarfon, Papur Dre, ac yn y rhifyn cyfredol mae'n ei rhoid-hi i bobl sy'n amharchu'r Gymraeg, gan feirniadu safon iaith a diffyg dychymyg rhai o newyddiadurwyr y BBC ymhlith eraill am eu Cymraeg gwallus a diddychymyg, ac wrth alw ar siaradwyr i gadw urddas yr iaith, mae'n holi beth mewn difrif fydd tynged yr iaith heb ei chadernid?

Fydd hi werth ei chadw a 'so' bellach wedi cael ei dderbyn i'n geirfa - ie, hyd yn oed o wefusau Comisiynydd yr Iaith, Meri Huws?

Ac mewn adlais o bregeth Gwyn, mae gwefan Fy Mhethau Bychain hefyd yn ei dweud hi.

Yn ôl y blog, creda ambell un bod angen i ni dderbyn bod bratiaith yn rhan annatod o'r Gymru fodern, ac nad oes unrhyw beth o'i le yn ei ddefnydd.

Ond, dywed, mae'n rhoi'r argraff nad ydym ni'n parchu'r iaith ddigon i'w siarad yn iawn, a bod angen cymorth gan eiriau iaith arall, Saesneg, er mwyn gwneud y Gymraeg yn iaith gyflawn a chredadwy.

Mae rhoi un gair Saesneg yng nghanol eich geirfa gyfystyr â rhoi un person di-Gymraeg (â dim bwriad o ddysgu) mewn ardal o siaradwyr Cymraeg - mae'r ddau yr un mor niweidiol â'i gilydd.

Wel wir, dwi ddim yn siŵr beth fyddai ymateb nyrsys Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda i hynna.

Image caption Gwellhad buan i Bethan Gwanas, sydd wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar

Cylchgrawn Golwg sy'n rhoi hanes y ward sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cleifion sydd am gael eu gofal a thriniaeth drwy'r Gymraeg, beth bynnag eu lefel o hyfedredd.

Pan fynegodd un o reolwyr y Bwrdd Iechyd ei fod yn dymuno defnyddio'r Gymraeg ond ei fod yn ofni gwneud camgymeriadau, ymateb Gareth Davies, Swyddog Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd Lleol oedd ei fod wedi gweld negeseuon ebost ganddo, a doedd ei Saesneg ddim yn wych chwaith, felly doedd fawr o bwynt poeni am ei Gymraeg…

Ac o sôn am ysbyty, mae colofnydd yr Herald, Bethan Gwanas, wedi gweld mwy na digon o du mewn Ysbyty Gwynedd dros yr wythnosau diwethaf.

Yn ddiweddar, cafodd glun newydd sbon danlli, ond fel y dywed yn ei cholofn, un noson, penderfynodd honno nad oedd hi'n licio'i lle tua 04:30 y bore, a Bethan yn ei gwely. Galw ambiwlans amdani, a gorfod treulio rhai dyddiau'n dod ati ei hun yn yr ysbyty.

Diolch i'r drefn, gwella mae Bethan, a does ganddi ddim byd ond canmoliaeth i staff Ysbyty Gwynedd a'r gofal gafodd yno - a na, dyw hi ddim yn dweud beth oedd iaith y gofal. Ond profiad annymunol ar y gorau - brysia wella Bethan!