Brwydr fawr y BBC

Huw Edwards

Mae newidiadau mawr yn wynebu'r BBC. Mae'r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi newidiadau i'r modd y bydd y Gorfforaeth yn cael ei hariannu ac mae'r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar ei dyfodol.

Y darlledwr Huw Edwards, cyflwynydd BBC News at Ten, sy'n ystyried arwyddocâd y datblygiadau yma i ddarlledu Cymraeg.

"Cyfnod anodd iawn o'n blaenau"

Y mae John Whittingdale yn caru'r BBC.

Dylwn ailadrodd - yn araf - er mwyn dileu unrhyw ddryswch.

Y mae John Whittingdale - yr ysgrifennydd diwylliant yn llywodraeth David Cameron - yn caru'r BBC.

Ydy, mae'n hollol wir. Fe syrthiodd yr union eiriau o'i wefusau mewn sgwrs gyda'r hybarch Andrew Marr.

Fe aeth gam ymhellach: "I admire the BBC. The last thing I want to do is undermine the BBC."

Diddorol.

Y gwir plaen yw bod y BBC yn sicr wedi ei thanseilio yn ariannol gan ddigwyddiadau diweddar. A chredwch fi, dylem feddwl yn ddwys iawn am yr effaith ar BBC Cymru, ar S4C, ac ar gwmnïau cynhyrchu annibynnol, yn y misoedd i ddod.

Mae yna gyfnod anodd iawn o'n blaenau.

Asgwrn cefn y Papur Gwyrdd ar ddyfodol y BBC yw cyfres o gwestiynau ar natur a sylwedd a chwmpas y gorfforaeth.

Y mae byrdwn y cwestiynau a'r gosodiadau yn glir: dylai'r BBC fod yn llai o faint; fe ddylai gynhyrchu llai o raglenni 'poblogaidd'; ac fe ddylai gadw ffocws ar wneud y math o raglenni nad ydynt ar gael ar sianelau eraill.

Cystadleuaeth annheg?

Awgrym ambell un yw y dylai'r BBC roi'r gorau i gynnig rhaglenni fel 'Strictly Come Dancing' oherwydd eu bod yn cystadlu yn 'annheg' gydag ITV ac eraill.

Dyna, cofiwch, oedd barn John Whittingdale ei hun cyn iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd Diwylliant. Dywedodd bryd hynny ei fod yn amau pwrpas a gwerth Strictly a rhaglenni cyffelyb yng nghyd-destun y BBC.

Erbyn hyn, newidiodd ei feddwl: dywedodd wrth Marr bod Strictly yn rhagorol (admirable) ac yn enghraifft o gambl yn llwyddo.

Image caption "Rwy'n edmygu'r BBC": Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, yn cael ei holi gan Andrew Marr

Dyma ni, felly, mewn sefyllfa od iawn. Pwy sydd i benderfynu beth sy'n rhy 'boblogaidd' o ran rhaglenni adloniant?

Gyda phob dyledus ac arswydus barch, nid gwaith gwleidyddion yw hynny.

Gwaith comisiynwyr a chynhyrchwyr profiadol yw ceisio ateb y galw a chynnig rhaglenni sy'n debygol o blesio cynulleidfa eang.

Eu gwaith nhw hefyd yw darparu rhaglenni ar faterion pwysig sy'n apelio at leiafrifoedd. Gwaith y darlledwyr yw creu rhwydwaith gyfoethog o raglenni sy'n cynnig rhywbeth o werth i bawb.

Dyletswydd (ie, dyletswydd) y BBC - yn rhinwedd natur y drwydded deledu - yw ceisio darparu gwasanaeth cynhwysfawr. Y mae 46 miliwn o bobl Prydain yn defnyddio gwasanaethau'r BBC bob dydd. Y mae'r BBC News Channel, sianel 'leiafrifol', yn cyrraedd 8.2 miliwn o unigolion bob wythnos.

Image caption A ddylai'r BBC barhau i gynhyrchu rhaglenni 'poblogaidd' fel 'Strictly Come Dancing'?

Cyfiawnhau'r drwydded

Pam crybwyll y ffigurau? Ai obsesiwn yw hyn, fel mae ambell feirniad yn dueddol o honni? Y gwir yw bod y dewis cynyddol o sianelau mewn oes ddigidol yn golygu bod y BBC yn gorfod brwydro i gyfiawnhau'r drwydded.

Elfen gref o'r prawf o ddilysrwydd a pherthnasedd yw'r ffigurau gwylio. Mae'r gallu i ddangos bod mwyafrif llethol o oedolion Prydain yn defnyddio gwasanaethau'r BBC bob wythnos yn cryfhau'r ddadl o blaid y drwydded.

Nid oes briwsionyn o dystiolaeth ar gael bod galw mawr am ddileu'r drwydded a rhoi tanysgrifiad yn ei lle. Daw'r gweiddi a'r ralio o du'r wasg bwerus a'i llygaid bob amser ar fantais fasnachol a dylanwad gwleidyddol.

Ac wrth gwrs mae 'na berthynas fansachol glos rhwng y wasg a rhai o'r cwmnïau mawr darlledu.

Image caption Mae datblygiad y dechnoleg newydd wedi newid tirwedd y byd darlledu yn gyfangwbl

"Bargen!"

Y mae llwyddiant y BBC - a'r gefnogaeth gref i'r gorfforaeth ymhlith y cyhoedd (edrychwch ar bob arolwg barn) - yn cynddeiriogi brodyr a chwiorydd y wasg.

Un o'r hoff sloganau yw value for money! - ewch ar bob cyfrif i brynu'r Sun am 40c (70c ar benwythnos). Neu'r Telegraph am £1.40 (£2 ar benwythnos).

Neu'r Daily Mail am 60c (90c ar benwythnos). Neu'r Guardian am £1.80 (£2.70 ar benwythnos). Fe gewch wledd o newyddion a cholofnau lliwgar i siwtio'ch rhagfarnau eich hunain. Pob lwc i chi.

Ond am bris o 40c y dydd fe gewch holl gynnyrch y BBC ar deledu, radio ac arlein. Bargen? Heb os.

Peth call fyddai i'r BBC ddweud hynny yn llawer mwy clir a chroyw. Mae'n ateb syml i'r sawl sy'n pregethu'n gyson am 'value for money'. Y BBC sy'n cynnig hynny, a'i gynnig yn rhyfeddol o effeithiol.

Un o elfennau mwyaf cythryblus y Papur Gwyrdd yw'r bwriad i edrych o'r newydd ar natur 'balans' neu 'annibyniaeth barn'. Nid damwain na chyd-ddigwyddiad yw bod y wasg yn cystwyo'r BBC yn feunyddiol am 'ddiffyg balans'.

Pa ddiffyg, meddech chi? Wel diffyg cefnogaeth i'r Ceidwadwyr, yn naturiol, yng ngolwg y mwyafrif o'r papurau newydd.

Pan fyddwch yn talu am eich hoff bapur, peidiwch â thwyllo eich hunain am natur y cynnwys. Gweithred wleidyddol - yn aml - yw prynu papur newydd.

Os mai'r Telegraph yw'r dewis, mae cymhellion y prynwr yn ddigon amlwg. Yr un yw'r hanes gyda'r Guardian a'r Times a'r Mail a'r Express a'r Sun a'r Mirror - a'r "Independent" hefyd, gyda llaw.

Image caption Beth fydd effaith newidiadau i'r BBC ar S4C?

Gwaith tîm

Mantais fawr y BBC yw bod penderfyniadau ym myd newyddion yn dibynnu ar waith tîm - proses gydweithrediadol iawn - lle mae penderfyniad golygyddol ar bwnc astrus yn dibynnu ar gyngor nifer o gydweithwyr o gefndiroedd gwahanol iawn.

Nid yw'r system yn berffaith o bell ffordd, rwy'n derbyn hynny, ond mae'n sicr yn lleihau cyfle unrhyw unigolyn i ddylanwadu'n ormodol ar y cynnwys.

Gwelais sylw diog gan un ysgolhaig o Gymro yn ddiweddar am biased coverage y BBC yn ystod refferendwm yr Alban.

Darlledwyd miloedd o oriau o ddeunydd yn ystod yr ymgyrch honno, ac fe wnaed camgymeriadau yn sicr. Ond biased coverage yn gyffredinol? Dim o gwbl.

Mae'r syniad bod holl garfannau newyddion y BBC wedi bod yn rhan o gynllwyn gwenwynig yn un affwysol o dwp a diddeall. Bu cannoedd o newyddiadurwyr wrthi'n gydwybodol yn ceisio darparu adroddiadau teg a chytbwys - ar waethaf yr ymosodiadau ffyrnig o bob tu mewn byd lle mae 'balans' yn golygu cynnwys ein barn 'ni' a bias yn golygu cynnwys eu barn 'nhw'. Nid peth iach yw hyn.

Dyfodol S4C

Dylai pawb sy'n poeni am ddyfodol darlledu Cymraeg ganolbwyntio yn hytrach ar ddyfodol BBC Cymru, ac ar ddyfodol S4C yn arbennig.

Mae cyllid y sianel eisioes wedi ei wasgu'n enbyd (toriadau o 36% mewn termau real ers 2010) ac fe ddylai cefnogwyr y sianel ddechrau gweiddi'n groch am ei llwyddiannau.

Mae'r sianel wedi gwneud gwaith ardderchog ac arloesol ar ei llwyfannau digidol: mae presenoldeb ei rhaglenni ar y iPlayer (mantais ddiamheuol o'r berthynas â'r BBC) wedi cyrraedd cannoedd o filoedd o wylwyr newydd, ac fe ddylem osod yr hen ddulliau o gyfrif gwylwyr yn eu cyd-destun newydd.

Mae S4C yn llwyddo dan amgylchiadau anodd, ac fe ddylai Cymry ymwrthod yn llwyr â'r naratif negyddol sy'n niweidio ei delwedd.

Oes, mae 'na gyfnod anodd o'n blaenau.

Mae gan y BBC waith pwysig iawn i'w wneud ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae'r gorfforaeth yn ysgwyddo baich arbennig o heriol yng Nghymru.

Dylai Cymry leisio'u barn yn egnïol yn y misoedd i ddod.

Image caption Faint o'r gloch yw hi ar wasanaethau darlledu cyhoeddus?