Drama 'Grav' yn dod adref i Fynydd-y-Garreg

Ray Gravell Image copyright Getty Images
Image caption Ray Gravell yn cynrychioli'r Llewod yn Ne Affrica yn 1980

Mae drama am fywyd Ray Gravell yn cael ei pherfformio ym Mynydd-y-Garreg - cartref Grav - ddydd Sadwrn, cyn symud ymlaen i Ŵyl Caeredin.

Fe fydd teulu a ffrindiau un o gewri'r byd rygbi yng Nghymru yn ymuno i wylio 'Grav' yn neuadd y pentref yn Sir Gâr.

Bu farw Gravell yn 2007 yn 56 oed wedi cymhlethdodau'n ymwneud â chlefyd siwgr.

Mae'r sioe-un-dyn wedi bod ar daith ers mis Ionawr eleni.

Wedi'r perfformiad arbennig ddydd Sadwrn, bydd y cynhyrchiad yn symud i Ganoldan Chapter yng Nghaerdydd, cyn teithio i Gaeredin dros yr haf.