Dyn wedi marw ar ôl disgyn o bont yng Nghaerarfon

A487 Caernarfon Image copyright Google
Image caption Dywedodd yr heddlu mai'r arwyddion cynnar yw iddo ddisgyn o bont gerdded sy'n croesi dros y ffordd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn marwolaeth dyn gafodd ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol ar ochr yr A487 yng Nghaernarfon.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r drosffordd yng nghanol y dref ychydig wedi 19:00 nos Wener.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae ymchwiliad llawn wedi ei lansio ac arwyddion cynnar yw iddo ddisgyn o'r bont gerdded sy'n croesi'r ffordd."

Bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod, ond mae wedi ailagor bellach.

Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101.