Holi Ricardo Iriani: Ymgeisydd am Lywodraethwr Chubut

Ricardo Iriani
Image caption Ricardo Iriani fyddai'r siaradwr Cymraeg cyntaf i fod yn Lywodraethwr talaith Chubut

Yn ogystal â bod yn flwyddyn dathliadau canrif a hanner ers i'r Cymry cyntaf lanio yno, mae 2015 yn flwyddyn etholiadau yn Ariannin.

Yn un o ddisgynyddion y gwladfawyr cynnar, mae Ricardo Iriani yn sefyll dros blaid Propuesta Republicana.

Fe fyddai'r siaradwr Cymraeg cyntaf i fod yn Lywodraethwr talaith Chubut.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn ei holi am ei gefndir Cymreig, ei ddymuniad i ddod â rhagor o Gymry draw i'r Wladfa, a'i edmygedd o Aneurin Bevan…

Beth yw eich cysylltiad gyda Chymru?

Daeth teulu fy hen daid ar ochr fy mam - John Morgan James - o Gymru mwy na 100 mlynedd yn ôl ar gwch y 'Vesta'. Daeth llawer o bobl o Gymru i adeiladu'r rheilffordd o Borth Madryn i Drelew.

Ar ôl gorffen adeiladu'r rheilffordd fe gafodd e ddarn o dir yn agos at Ddolavon. Roedd e'n byw yno, ac wedyn taid a nain. Ac fe gafodd mam ei geni yn Nolavon, felly rydw dwi wedi cael y traddodiad, y diwylliant a'r iaith Gymraeg o ochr fy mam.

Fe gafodd dad ei eni yn Buenos Aires ond mae teulu ochr dad yn dod o'r Eidal.

Fe ddysgais i Gymraeg tra ar wyliau ar y fferm yn Nolavon gan ddechrau caru'r traddodiad a'r diwylliant sydd fan hyn yn Nyffryn Camwy.

Mae fy mhlant i nawr yn siarad Cymraeg ac yn caru popeth Cymreig.

Pam ydych chi am fod yn Lywodraethwr Chubut?

Rydyn ni'n hapus iawn i gael democratiaeth ar ôl y pethau drwg sydd wedi digwydd yn Ariannin flynyddoedd yn ôl, ond mae lle i wella.

Mae pobl gyffredin sy'n gweithio pob dydd wedi mynd yn bellach ac yn bellach oddi wrth bethau gwleidyddol yn Ariannin.

Dwi'n credu bod angen gweithio dros y pethau cymdeithasol mae pobl eisiau yn yr Ariannin, yn nhalaith Chubut ac wrth gwrs ym Madryn, Trelew a'r Gaiman.

Beth am y cysylltiad rhwng Cymru a'r Ariannin?

Mae lle i gyd-weithio gydag iechyd, addysg a llawer o bethau - nid twristiaeth yn unig. Rhaid danfon pobl o Batagonia i Gymru, a rhoi croeso i bobl o Gymru i Batagonia.

'Dwi ddim yn gweld dyfodol i'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia heb gyd-weithio gyda phobl o Gymru. Rhaid i ni ffeindio esgus i siarad Cymraeg drwy chwaraeon, addysg, iechyd a gydag ymwelwyr sy'n dod o Gymru.

Os mai fi fydd yn rheoli talaith Chubut y tymor nesa' dwi am gryfhau'r berthynas.

Pwy yw eich arwyr?

Pan y'ch chi'n siarad fan hyn am bobl sy'n dod o Gymru ma' nhw'n gwybod am Owain Glyndŵr, Llywelyn Fawr, Tom Jones a Dylan Thomas.

Ond dwi'n licio'r pethau mae Aneurin Bevan wedi gwneud i bobl o Gymru. Os allwn ni wneud ychydig bach o'r hyn mae e wedi ei wneud gydag iechyd yng Nghymru, mi fyddai'n hapus iawn ym Mhatagonia.

Rhagor o gynnwys ar yr holl ddathliadau ym Mhatagonia.