Ceredigion: Trafod dyfodol cartrefi gofal

cyngor ceredigion
Image caption Mae Cyngor Ceredigion, fel sawl awdurdod lleol ar draws Cymru, yn rhagweld y bydd ar lawer mwy o bobl hŷn angen cymorth yn y dyfodol

Bydd cyngor yn trafod dyfodol saith o gartrefi gofal yn y canolbarth ddydd Mawrth.

Yn dilyn adolygiad yn gynharach eleni mae Cyngor Ceredigion yn dweud "nad ydy hi'n briodol neu'n ymarferol i ddarparu gwasanaethau trwy ddefnyddio'r model presennol".

Y cartrefi dan ystyriaeth yw Bodlondeb ym Mhenparcau, Aberystwyth; Awel Deg yn Llandysul; Bryntirion yn Nhregaron; Hafan Deg yn Llanbedr Pont Steffan; Min y Môr yn Aberaeron; Tregerddan yn Bow Street ac Yr Hafod yn Aberteifi.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn darparu 174 o welyau yn y cartrefi.

Yn dilyn ymgynghoriad mae argymhelliad i ail-ddatblygu tri safle - yn Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron.

Mae cartref Awel Deg yn Llandysul ar gau ar hyn o bryd, yn dilyn cyfnod o foderneiddio, a'r argymhelliad yw i'r Cyngor weithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda i greu canolfan integredig newydd ar gyfer iechyd meddwl yno.

Mae darpariaeth i'r henoed yn Nhregaron wedi ei gynnwys eisoes yn natblygiad 'Cylch Caron', ac fe fyddai cartref Tregerddan yn Bow Street yn aros fel y mae am y tro.

Cryn drafod

Ond mae disgwyl cryn dipyn o drafod ar ddyfodol cartref Bodlondeb ym Mhenparcau.

Mae'r Cyngor yn awyddus i'w drosglwyddo i ofal darparwr preifat "i ddiwallu'r angen am leoedd nyrsio a nyrsio dementia", ac yn ôl yr adroddiad mae dau gwmni preifat wedi datgan diddordeb.

Ond mae sawl cynghorydd lleol yn pryderu am effaith trosglwyddo'r cartref i ofal cwmni preifat ar y preswylwyr a'r gymuned ehangach, ac yn dweud nad oes digon o fanylion ynglŷn â sut fyddai'n gweithio.

Mae Cyngor Ceredigion, fel sawl awdurdod lleol ar draws Cymru, yn rhagweld y bydd llawer mwy o bobl hŷn angen cymorth yn y dyfodol.

Maen nhw'n rhagweld y bydd "1000 o bobl ychwanegol dros 85 oed" yn y sir rhwng 2013 a 2025, a chynnydd o 3,400 yn y bobl 65 a throsodd fyddai angen cymorth.

"Bydd baich ariannol y Cyngor yn dal i gynyddu dros y blynyddoedd nesaf oherwydd bod nifer y bobl hŷn yn y sir yn cynyddu."