Dafydd Elis-Thomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogaeth leol i Elis-Thomas

28 Gorffennaf 2015 Diweddarwyd 21:53 BST

Mae aelodau Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd wedi cefnogi ei haelod cynulliad lleol yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mewn cyfarfod arbennig ym Mhorthmadog nos Fawrth, roedd aelodau y blaid yn lleol, a'r pwyllgor gwaith yn trafod dyfodol cyn-arweinydd y blaid a chyn-lywydd y Cynulliad.

Aled ap Dafydd aeth i'r cyfarfod ar ran Newyddion 9, a bu'n cloriannu asgwrn y gynnen rhwng yr Arglwydd Elis-Thomas a rhai o aelodau eraill y blaid.