Arwyddion dwyieithog newydd Patagonia

Fel rhan o'r dathliadau i nodi canrif a hanner ers i ymfudwyr o Gymru gyrraedd Patagonia mae llywodraeth talaith Chubut wedi talu am arwyddion newydd wrth ochr rhai o brif ffyrdd y rhanbarth.

Maen nhw'n ddwyieithog - yn Gymraeg a Sbaeneg - ac yn nodi lleoliadau arwyddocaol yn hanes y Gwladfawyr cyntaf.

Nod Cymdeithas Dewi Sant Trelew wrth gydweithio gyda'r llywodraeth ar y prosiect yw cadw'r enwau a'r storiau cysylltiedig yn fyw. Mae gobaith yn y dyfodol codi byrddau gwybodaeth mewn sawl iaith i adrodd yr hanes.

Tŵr Joseph

Mae'r 'tŵr' ar y llaw dde wrth deithio ar y ffordd o Borth Madryn i gyfeiriad Trelew. Mae'n bigyn amlwg yng nghanol tir gwastad ac wedi'i enwi - yn ôl yr hanes - ar ôl Joseph Seth Jones fu'n un o fintai'r Mimosa. Mae'n debyg iddo fynd ar goll tra'n cerdded ar y paith ac er mwyn ceisio cael hyd i'r ffordd yn ôl i'r Bae Newydd fe ddringodd i gopa'r bryncyn er mwyn ceisio gweld y môr.

Dyffryn y Merthyron

Mae'r arwydd wrth ymyl y Ruta Nacional 25 rhwng Trelew a'r Andes ond mae'r union leoliad a gysylltir gyda'r hanes trist rhyw hanner awr o daith o'r ffordd fawr. Ym mis Mawrth 1884 fe ymosododd grŵp o frodorion ar bedwar Cymro yn y fan hon. Cafodd tri o'r Cymry eu lladd ond fe lwyddodd y pedwerydd - John Daniel Evans - i ddianc diolch i gryfder ei geffyl, Malacara. Neidiodd y ceffyl i lawr dibyn serth a ffoi i ddiogelwch rhag y brodorion.

Wyth diwrnod yn ddiweddarach aeth grwp o Wladfawyr yn ôl i'r man a chladdu cyrff John Parry, John Hughes a Richard Davies a rhoddwyd yr enw Dyffryn y Merthyron ar y lle. Ar wahan i'r digwyddiad ysgytwol hwn, roedd y berthynas rhwng y Cymry a'r brodorion yn dda. Yn ystod y cyfnod hwn roedd byddin Ariannin yn cynnal cyrchoedd cyson yn erbyn y brodorion - yn eu lladd neu yn eu symud o'r tir i wersylloedd crynhoi mewn ymgyrch waedlyd i 'oresgyn yr anialwch'.

Wrth ysgrifennu am yr hanes mae John Daniel Evans yn dweud ei bod yn bosib fod y brodorion wedi ymosod ar y grwp o Gymry ar ôl meddwl ar gam eu bod yn ysbïo ar ran yr Archentwyr.

Rhyd yr Indiaid

Paso de Indios yn Sbaeneg. Man lle roedd modd croesi'r afon Camwy. Mae John Daniel Evans yn disgrifio'r broses o groesi'r afon fan hyn ym 1885 gyda'r holl lwyth yr oedd e a chriw a aeth i archwilio yn yr Andes yn ei gario: "Awd i fyny i drofeydd yr afon a gwnawd rafft o goed helyg cryfion a gollyngwyd hi i lawr yr afon… ac ar ôl diwrnod o weithio pur galed, dodasom ein hunain, ein clud a'r ceffylau yn ddiogel ar yr ochr ddeheuol." (Dyfyniad o 'Bywyd a Gwaith John Daniel Evans, El Baqueano', golygydd Paul W Birt.)

Hafn y Glo

Ardal o greigiau trawiadol iawn. Mae'r Ruta 25 yn rhedeg trwy eu canol. Byddai'r Gwladfawyr yn dod i'r lle yma i chwilio am aur ac yn y man hwn cawson nhw hyd i haenen o garreg dywyll a oedd yn debyg i lo.

Bryniau Meri

Ardal yn agos i Borth Madryn lle mae'r tir yn codi a lle ganwyd y ferch gyntaf i un o'r ymfudwyr ar dir Patagonia. Roedd Elizabeth Humphreys ar ei ffordd dros y paith garw i Gaer Antur (Trerawson maes o law) pan roddodd enedigaeth i ferch fach gafodd yr enw Maria. Yn sgil hynny rhoddodd y Cymry yr enw 'Bryniau Meri' ar y lle.

Rhagor o gynnwys ar yr holl ddathliadau ym Mhatagonia