Saethu Abercynon: Arestio trydydd dyn

Heddlu
Image caption Roedd yr heddlu yn chwilio mewn afon gerllaw ddydd Mercher

Mae trydydd dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad gydag achos o saethu yn Rhondda Cynon Taf lle gafodd dyn anafiadau difrifol.

Cafodd Mark Jones, 43 o Aberpennar, ei saethu ar ochr y ffordd rhwng Aberpennar ac Abercynon ddydd Sul.

Mae dyn 51 oed o Bontypridd yn cael ei holi ar amheuaeth o geisio llofruddio gan Heddlu De Cymru.

Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi un dyn 46 oed, ac mae dyn arall, hefyd yn 46 oed, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ddydd Mercher.

Fe glywyd dwy ergyd o gar y dyn gafodd ei saethu - Audi A3 gwyn - mewn llecyn ar ochr y ffordd nos Sul.

Mae Mark Jones yn cael ei drin yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.