Ymosodiad Grangetown: Achos o lofruddiaeth

grangetown
Image caption Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, yn Grangetown fore Sadwrn

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn a gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yng Nghaerdydd, farw yn yr ysbyty.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, Grangetown, am tua 04:20 fore Sadwrn, lle gafodd y dyn 35 oed ei ganfod.

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.