Llofruddiaeth Grangetown: Enwi dyn

Russell Peachey

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yng Nghaerdydd wedi enwi'r dyn fu farw fel Russell Peachey.

Fe gafodd Mr Peachey ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yng Nghaerdydd, cyn iddo farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, Grangetown, am tua 04:20 fore Sadwrn, lle gafodd y dyn 35 oed ei ganfod.

Mae ail ddyn, bellach wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.

Image caption Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, yn Grangetown fore Sadwrn