Darlledu cyfrwng Cymraeg 'erioed wedi bod mor bwysig'

darlledu eisteddfod
Image caption Rhodri Talfan Davies (canol) yn trafod dyfodol darlledu Cymraeg ar y maes

Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg "erioed wedi bod mor bwysig", yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru.

Roedd Rhodri Talfan Davies yn siarad cyn trafodaeth fawr ar Faes yr Eisteddfod oedd yn edrych ar ddyfodol y cyfryngau cyfrwng Cymraeg.

Ymunodd Mr Davies â ffigyrau amlwg y diwydiant mewn dadl a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd i drafod beth mae rhai yn ei alw "yr argyfwng mwyaf difrifol i wynebu darlledu cyfrwng Cymraeg ers sefydlu S4C dros 30 mlynedd yn ôl."

Dywedodd Mr Talfan Davies: "Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg ar draws y radio, y teledu a'r rhyngrwyd erioed wedi bod mor bwysig. Ac nid yw'r achos ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus i'w gefnogi, erioed wedi bod mor glir.

"Felly mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd lais go iawn yn y ddadl am ddyfodol darlledu cyhoeddus yng Nghymru."

'Angen tegwch'

Yn ystod y drafodaeth, mi alwodd Ian Jones am degwch i bawb wrth wneud arbedion, yng nghyd-destun toriadau aruthrol o 36% i gyllid S4C mewn termau real ers 2010.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Mae'r cyfryngau wedi newid llawer ers sefydlu S4C yn 1982. Mae heriau gwahanol yn ein hwynebu yn yr oes hon gyda'r gynulleidfa wedi ffragmanteiddio a chystadleuaeth nid yn unig gan ddegau ar gannoedd o sianelu teledu eraill, ond hefyd gan y doreth o gynnwys ar-lein.

"Ond y cwestiwn i mi yw beth fydd siâp darlledu cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg mewn blynyddoedd i ddod? Gyda'r chwiban bellach wedi chwythu ar drafodaethau ynghylch dyfodol ariannu S4C, rwy'n cytuno fod angen i bob sefydliad fod yn barod i rannu'r baich o wneud arbedion, ond mae angen sicrhau tegwch.

"Mae'n rhaid ystyried y gwasanaeth mae S4C yn ei ddarparu, a faint o wasanaeth darlledu cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg fydd ar ôl, os bydd 'na doriadau sylweddol i fframwaith a gwasanaeth S4C, a thegwch i fi yw cymryd ystyriaeth o'r toriadau o 36% mewn termau real a gafodd eu gosod yn ôl yn 2010.

"Tra bod yna ddewis o adnoddau Saesneg ar gael i wylwyr yng Nghymru, dim ond un dewis sydd yn y Gymraeg. Mae'n rhaid i S4C gael ei chyllido mewn ffordd sy'n ei galluogi hi i wneud y gwaith, neu mae angen penderfyniadau gwleidyddol ynglŷn â pha elfennau o'r gwasanaeth darlledu cyhoeddus, y mae'n dderbyniol i'w hepgor yn y Gymraeg."

'Argyfwng mwyaf difrifol'

Fe gafodd y drafodaeth ei chynnal gan y Brifysgol, BBC Cymru Wales, S4C, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn prifysgolion, a Rondo Media, cwmni cynhyrchu yng Nghymru.

Mae'n cyffwrdd â rhai o'r pynciau a godwyd yn y gyfres ar BBC Radio Cymru 'Cyflwr y Cyfryngau', a gyflwynir gan Gwion Lewis ac sy'n edrych ar gyflwr y cyfryngau yng Nghymru.

Fe gafodd drafodaeth ei recordio ar gyfer pennod olaf Cyflwr y Cyfryngau.

Dywedodd Gwion Lewis: "Mae darlledu cyfrwng Cymraeg yn wynebu ei argyfwng mwyaf difrifol ers sefydlu S4C ym 1982.

"Mae angen taer am ddadl genedlaethol am swyddogaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru heddiw, a'r ffordd orau o'i ariannu yn yr oes ar ôl datganoli."

Daw'r drafodaeth wrth i benderfyniadau ynghylch ariannu a chyfeiriad y cyfryngau cyfrwng Cymraeg gyrraedd pwynt hollbwysig.

Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig newydd gyhoeddi bod dyfodol darlledu yng Nghymru i fod yn destun ymholiad.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Davies AS, y byddai'n canolbwyntio ar "ddarlun Cymru", gan gynnwys darlledu yn yr iaith Gymraeg.

Mae arian ar gyfer S4C wedi bod o dan y chwyddwydr hefyd ar ôl i weinidogion y DU gyhoeddi adolygiad o'r BBC.

Daw'r rhan fwyaf o incwm S4C o ffi trwydded y BBC, yn ogystal â rhywfaint o arian gan lywodraeth y DU ac incwm masnachol.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015