Y Steddfod yn cofio: John Rowlands

john rowlands

Gydol yr wythnos ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni, mae sesiynau i gofio'r Cymry amlwg fu farw yn ystod y flwyddyn.

Bnawn Sul yn y Babell Lên, daeth criw o gyn-fyfyrwyr yr Athro John Rowlands ynghyd i'w gofio.

Bu farw'r awdur, beirniad a darlithydd, oedd yn wreiddol o Drawsfynydd, fis Chwefror eleni.

"Be' fyddai John wedi ei ddweud, d'wedwch?" oedd cri yr Athro Gerwyn Williams wrth agor y sesiwn. Fe ddarllenodd englynion a 'sgwennwyd i John Rowlands, a'i gofio fel "cyfaill a chynheiliad ar hyd y blynyddoedd".

Cafwyd darlleniadau o'i waith gan yr Athro Angharad Price a Siân Teifi.

Roedd ganddo'r "meddwl bywioca' a minioca'" o holl adran y Gymraeg yn Aberystwyth, yn ôl ei gyd-weithiwr Dr Bleddyn Owen Huws. Wedi ei farwolaeth, fe gysylltodd nifer o fyfyrwyr yr Athro Rowlands â Dr Huws, a phawb yn nodi "ei arfer o ddarlithio â'i arddwn yn sownd yn ei foch".

"Ar bapur a print, roedd fel petae'n agor allan," meddai Dr Huws, er ei gymeriad swil.

Image caption Roedd Simon Brooks ymysg y cyfranwyr

'Tynnu blewyn o drwyn'

Fe gofiodd Fflur Dafydd amdano fel "rhywun nad oedd ofn ganddo dynnu blewyn o drwyn," yn cynnwys ei thrwyn hi ei hun ar brydiau. Dywedodd iddi barhau i "sleifio i ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol John" er iddi benderfynu dilyn gradd yn y Saesneg.

Pan enillodd Fflur Wobr Goffa Daniel Owen, fe wnaeth anfon ei gwaith wedi iddi weld fod John Rowlands yn beirniadu. "Ro'n i eisiau plesio John," meddai.

Cafwyd teyrngedau iddo gan Dr Simon Brooks a Kate Crockett, fu ei dau yn dwyn atgofion am hoffter John Rowlands o fwyd a gwin da, ei feddwl craff a'i ddylanwad a'i ymroddiad fel darlithydd.

Meddai Kate Crockett, "roedd mor ddylanwadol... Roedd e ishe i chi fod yn chi eich hun".

Rhoddodd Twm Morys gipolwg ar gyfres o e-byst gafodd eu hanfon ato gan John Rowlands yn rhinwedd ei swydd fel golygydd Barddas. Roedd unrhyw ganmoliaeth gan John, meddai Twm, yn hwb enfawr.

Roedd e'n ddyn arbennig o gadarn," meddai Sian Teifi, "â thân yn ei fol".

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015