Llên, gwleidyddiaeth a hunaniaeth

Seimon Brooks

Ddydd Gwener ar faes y Brifwyl ym Meifod, mae Daniel G. Williams a Simon Brooks wedi bod yn y Lolfa Lên i drafod Cymreictod a hunaniaeth, yn sgîl cyhoeddi llyfrau ar y pwnc yn ddiweddar.

Cyn sesiwn 'Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Hunaniaeth', bu Daniel G. Williams a Simon Brooks yn rhoi blas o'r hyn fyddan nhw'n drafod i Cymru Fyw.

Simon Brooks: Cymru ein Gwlad

Mae gan Ifor ap Glyn fersiwn Gymreig o 'Dead Parrot Sketch' John Cleese ble mae dyn yn cwyno wrth siopwr ei fod wedi prynu parot sydd wedi marw. 'No, no', meddai'r siopwr, 'he's not dead, he's restin'!'

Ac felly mae efo ieithoedd lleiafrifol yn sgets Ifor. Maent hwythau hefyd yn 'restin'', yn cael seibiant bach cyn cael eu hadfer - yn y dyfodol, bob tro yn y dyfodol.

Mae'r sgets yn ein hatgoffa y gall cenhedloedd ac ieithoedd farw, ac amhosib yw eu hatgyfodi wedyn.

Priod waith cenedlaetholdeb Cymreig yw gofalu am y 'parot' - gofalu am y genedl, gwneud yn siŵr na fydd yn marw. Mae materion cymdeithasol yn bwysig hefyd, ond Cymru a'r Gymraeg yw'r flaenoriaeth.

Da ni'n byw mewn oes o negeseuon syml mewn gwleidyddiaeth.

Mae nerth ymgyrch Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, twf Ukip ymysg yr henoed, a llwyddiant yr SNP yn yr Alban oll yn tystio i hyn.

Felly mae angen i genedlaetholdeb Cymreig ailddarganfod ei neges graidd ei hun.

A'r neges yw fod Cymru'n genedl, mai Cymraeg yw ei phriod iaith, a bod gwladgarwch 'syml' o'r fath yn debycach o ddwyn llwyddiant na chynghreirio â radicaliaeth Brydeinig.

Daniel G. Williams: Aml-ddiwylliannedd

Image copyright Arall

Fel Simon, rwy'n gweld adfywiad ieithyddol yn hanfodol i Gymru'r dyfodol, ond fydd hyn ond yn bosib os cysylltwn yr iaith a mudiadau cymdeithasol sy'n datblygu. Aml-ddiwyllianaeth yn hytrach na cheidwadaeth yw fy nadl i.

Mae yna ddwy ddelwedd gyffredin yn y trafodaethau cyfoes ar aml-ddiwylliannedd. Y cyntaf yw'r 'melting pot', y pair tawdd. Dyma'r ddelfryd gymathol - fod pobloedd yn dod at ei gilydd, yn rhoi heibio eu priodweddau neilltuol, ac yn ymdoddi i un diwylliant. Mewn cyferbyniad â'r ddelwedd hon awgrymir y fowlen salad. Nid oes ymdrech i gymysgu'r cyfan yn y ddelwedd yma, ond gall y cynhwysion gwahanol orwedd yn ddestlus a heddychlon y drws nesaf i'w gilydd. Dyma'r ddelfryd aml-ddiwylliannol.

Pa bynnag ddelwedd ddefnyddiwn ni, mae gan y syniad o Brydain fel rhyw bair neu fowlen y gall amrywiaeth o bobl fod yn gynhwysion ynddi hanes hir. Ac mae'r Brydain ryddfrydol, gynhwysol honno wastad wedi ei chreu mewn gwrthgyferbyniad â'r 'llwythau' cul neilltuol sy'n cyfrannu iddi.

Ond mae'r ddwy ddelwedd yn gofyn cwestiwn mwy sylfaenol. Beth yw gwead y fowlen neu'r pair ei hun? Os mai Prydeindod yw'r pair, yna perthyn y Cymry a'r Albanwyr i'r cynhwysion, a rhwydd hynt iddynt gyd-fodoli gyda lleiafrifoedd eraill yn ôl y ddelfryd aml-ddiwylliannol, neu gael eu cymysgu'n un yn ôl y ddelfryd gymathol.

Un ffordd neu'r llall, grwpiau ethnig ydynt yn cyfrannu at Brydeindod. Y pair Prydenig sydd â'r gallu i ddal a chynnal lluosogedd. Cynhwysion digyfnewid yw'r bobloedd sy'n cyfrannu at y lluosogedd hwnnw.

Ond dadl y cenedlaetholwr Cymreig neu Albanaidd yw mai'r pair neu'r fowlen yw eu cenhedloedd nhw hefyd. Nid cynhwysyn. Nid grŵp ethnig, neu hil mo'r Cymry yn y weledigaeth yma, ond cenedl aml-ddiwylliannol yn ei thermau ei hun a all gynnwys Cymry Iddewig, Cymry Affricanaidd ac yn y blaen. Aml-ddiwylliannedd, nid rhyw droi yn ôl at genedlaetholdeb cyntefig, yw'r her fwya' sylfaenol i Brydeindod heddiw.

Gall Cymreictod sydd wedi ei seilio ar linach neu ar ddiwylliant penodol gyfrannu'n ddigon hawdd i'r naratif Prydeinig cymathol. Beth na all y naratif Prydeinig ddygymod â fe yw hawl y lleiafrifoedd i fod yn aml-ddiwylliannol eu hunain.

Felly fy nadl i yw na ddylem ymwrthod â'r sifig, sy'n arf defnyddiol inni o ran gwrthwynebu Prydeindod yn ogystal â gwrthsefyll anoddefgarwch ethnig. Yn hytrach dylem hawlio tiriogaeth y sifig i'n hunain a defnyddio aml-ddiwylliannedd dwyieithog Cymreig yn sail i drechu aml-ddiwylliannedd ffals Prydeindod.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.