Edrych yn ôl ar wythnos y Mimosa ym Mhatagonia

Image caption Mae Rhodri Llywelyn wedi bod yn rhan o dîm gohebu BBC Cymru o'r Wladfa i nodi dathliadau 'Gwyl y Glaniad'

Gohebydd BBC Cymru ym Mhatagonia, Rhodri Llywelyn yn edrych yn ôl ar wythnos o ddathlu Cymreictod, wrth i'r Archentwyr nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa.

Fe safodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ar ganol llawr eang Canolfan Dewi Sant yn Nhrelew yn cyflwyno rhoddion i arweinwyr cymunedau dyffryn Camwy.

Yn y blychau du roedd anrhegion i ddiolch am y croeso gan gynnwys baneri Cymru mawr - yr un peth nad oes prinder ohonyn nhw ym Mhatagonia eleni.

Mae draig goch yn hongian o bob postyn lamp, a'r ymdrech i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa wedi bod yn rhyfeddol. Yn Nhrelew a Gaiman yn enwedig mae'r strydoedd wedi eu haddurno'n goch, gwyn a gwyrdd.

Ac i bob baner Cymru mae yna faner Ariannin. Stori am ddwy wlad yw hon.

"Mae'n deimlad rhyfedd bod yn Gymro sy'n siarad Cymraeg ac i ddod o Ariannin a siarad Sbaeneg" meddai Marvel Lewis sy'n fecanic yn Nhrelew.

Image caption Y ddraig goch ochr yn ochr a baner yr Arianinn yn y Gaiman

Croesawu ymfudwyr

Rydw i wedi clywed droeon ers bod yma am barodrwydd yr Indiaid brodorol i groesawi'r ymfudwyr. Hefyd am lwyddiant y llywodraeth yn hawlio'r paith dan drwynau Chille drwy ganiatáu i'r Cymry ddod yma. Mae hanes Y Wladfa o safbwynt Ariannin wedi bod yn gymaint rhan o'r dathlu a stori'r Mimosa.

Nid fod Marvel yn ymwybodol o hynny. Roedd e'n mynd i Buenos Aires am lawdriniaeth ar ei ysgwydd yr 28ain o Orffennaf, sef diwrnod mawr Gwyl y Glaniad. Hyd yn oed yng nghanol y miri mae bywyd i rhai wedi gorfod mynd yn ei flaen.

Roedd un digwyddiad yn dilyn y llall, neu ddau'n cyd-redeg ar brydiau gan ei gwneud hi'n amhosib gweld popeth. Bydd y dathliadau'n parhau drwy'r haf ac i'r Hydref gydag Eisteddfod Y Wladfa.

'Glaniasant yma i aros'

Arwyddair blwyddyn bwysig Patagonia yw "Glaniasant yma i aros". Mi fyddai'r ymfudwyr cyntaf i'r gornel fach yma o Dde America yn falch o weld yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn cael eu dathlu mor frwdfrydig ganrif a hanner yn ddiweddarach.

Image caption Maer Gaiman, Gabriel Restucha yn cael ei gyfweld

A thra bod sylw Cymru'n troi'r wythnos hon at Feifod gyda Phatagonia'n pellhau o feddyliau pobl, does dim perygl o fenter a dewrder y gwladfawyr yn mynd yn angof yn nhalaith Chubut . Yn ôl Maer Gaiman, Gabriel Restucha, "…ry'm ni'n dathlu Gŵyl y Glaniad bob dydd yma yn Y Wladfa".

Wrth adael ar 'Yr Hirdaith' adref (gyda chyfrol Elvey MacDonald wedi bod yn gymar ar hyd y ffordd) nid cymanfa ganu, cyngerdd, tŷ te, neu hyd yn oed weld 'gaucho' go iawn ar gefn ceffyl sy'n gadael yr argraff fwyaf.

Dyma ddigwydd galw heibio ym mynwent a gweld enwau Myrddin Evans ac Ann Reynolds. Yna John Arfon Jones, Esther Howells, Eduardo Tywi Jones, Margaret Jane Jones…rhes ar ôl rhes o gerrig beddi Cymraeg mor bell o gartre. Gallwn i fod wedi bod yn Llandysul neu Lansannan.

Aberth a chaledi

Oedd hi werth eu haberth a'r caledi cynnar?

Wel mae'r iaith yn dal i gael ei siarad ac i'w chlywed mewn siop a thafarn yn amlach nag oeddwn i wedi ei ddisgwyl.

Draw yn Yr Andes mae'r gwaith o adeiladu trydedd ysgol ddwyieithog, Cymraeg-Sbaeneg yn symbol o'r adfywiad sy'n digwydd.

Image caption Mae'r prif weinidog yn barod i "ystyried" rhoi rhagor o arian i'r Cynllun Cymraeg ym Mhatagonia

Fe ddywedodd Carwyn Jones wrtha'i yn Ysgol Yr Hendre, Trelew, ei fod e'n barod i "ystyried" rhoi rhagor o arian i'r Cynllun Cymraeg sy'n gwneud gwaith "anhygoel" meddai. Mae pobl yma'n gobeithio am y gorau.

Ond mae'n drawiadol yma cyn lleied o Gymraeg y mae'r rheiny sy'n medru'r iaith yn ei siarad gyda'i gilydd. Mewn llawer o ffyrdd dyw'r heriau ym Mhatagonia yn ddim gwahanol i Gymru.

Ein tywysydd ni fel gohebwyr am yr wythnosau diwethaf oedd Juan Davies o Gaiman. Wrth ffarwelio yn y maes awyr fe ddywedodd 'Sion' wrtha'i "...bod yr awdurdodau o'r diwedd yn gwybod bod yr hanes yn bwysig". Oherwydd hynny'n fwy na dim byd arall meddai, mae'r dathliadau wedi bod yn "wych".

Yng ngeiriau'r Prif Weinidog wrth gloi ei araith yng Nghanolfan Dewi Sant, "Y Wladfa am byth".

Image caption Juan Davies y tu fas i'w gartre - Yr Hen Bost ar Heol Michael D Jones yn Gaiman
Image caption Y ddraig goch ar Wyl y Glaniad ym Mhorth Madryn yn cael ei chwifio gan ddwy chwaer sy'n ddisgynyddion y gwladfawyr cyntaf