Ymosodiad Abercynon: Dau ddyn yn y llys

heddlu abercynon
Image caption Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth ymyl y ffordd ger Penrhiwceiber

Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio.

Anafwyd Mark Jones, 43 oed, ar ôl iddo gael ei saethu â gwn ar y ffordd rhwng Aberpennar ac Abercynon ym mis Gorffennaf.

Cyhuddwyd Stephen Bennett 52 oed, o Bontypridd, ac Edward Bennett, 47 oed, o Aberpennar o geisio llofruddio Mark Jones ac o fod a gwn yn eu meddiant.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf ym mis Hydref.

Clywodd y llys fod Mark Jones yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.