Goruchaf Lys: Angen barnwr i Gymru

goruchaf lys
Image caption Mae 11 dyn ac un ddynes yn eistedd fel barnwyr yn y goruchaf lys

Mae adroddiad yn galw ar y Goruchaf Lys i benodi barnwr ar gyfer Cymru.

Mae'r argymhelliad gan Jenny Rowe, prif weithredwr y Goruchaf Lys, fel rhan o adolygiad y comisiwn dethol er mwyn delio â'r nifer cynyddol o ddeddfau a gynhyrchir gan y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd, mae dau farnwr o'r Alban ac un o Ogledd Iwerddon yn eistedd yn y goruchaf lys.

"Wrth i gyfreithiau Cymreig dyfu a datblygu ... bydd angen ystyried penodi barnwr Cymreig," meddai Ms Rowe.

Yn ôl yr adroddiad, ar hyn o bryd mae'n rhaid penodi 'barnwr dros dro' ar gyfer unrhyw achosion sy'n ymwneud a Chymru".

Mae 12 barnwr yn eistedd yn y Goruchaf Lys, a phan fydd swydd wag yn ymddangos, fe fydd comisiwn dethol yn cael ei sefydlu i apwyntio barnwr newydd.

Y barnwr nesaf i ymddeol bydd Arglwydd Toulson, ym mis Medi 2016, ac yna fe fydd pum barnwr arall yn ymddeol yn 2018.

Yr oedran ymddeol gorfodol ar gyfer barnwyr y Goruchaf Lys yw 70.

Image caption Y Goruchaf Lys yw'r llys uchaf yn y DU

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i unigolyn naill ai fod wedi bod yn farnwr Uchel Lys am ddwy flynedd, neu'n gyfreithiwr ers 15 mlynedd.

Mae'r Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol wedi ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn dethol "sicrhau bod trawstoriad o brofiad, meysydd ymarfer, a gwybodaeth am wahanol ardaloedd o'r Deyrnas Unedig, wrth benodi barnwyr newydd.

Dywedodd Ms Rowe mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r comisiwn nesaf gymryd i ystyriaeth "yn gynnar, cyn i'r swydd wag ei ​​hysbysebu hyd yn oed".

Fodd bynnag, mae'r adolygiad yn nodi bod rhai pobl yn credu na ddylid blaenoriaethu amrywiaeth daearyddol dros fathau eraill o amrywiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Dyma ddatblygiad i'w groesawu. Mae llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r syniad o gael barnwr o Gymru yn eistedd yn y Goruchaf Lys ers peth amser, ac mae'r Prif Weinidog wedi codi'r mater yn y gorffennol."

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwn yn fawr iawn, mae'r ddadl dros gael barnwr o Gymru yn tyfu'n gryfach bob dydd.

"Wrth i'r Cynulliad barhau i gael mwy o gyfrifoldebau, mi fydd, wrth gwrs, mwy o ddeddfau Cymreig. Felly mae'n gwneud synnwyr y dylai Cymru gael cynrychiolydd sydd â gafael llawn ar gyfreithiau Cymreig yn y Goruchaf Lys.".