Gwyntoedd yn atal fferi o Gaergybi

Caergybi
Image caption Mae Irish Ferries wedi newid trefniadau teithio cannoedd o deithwyr rhwng Caergybi a Dulyn

Mae gwyntoedd cryfion wedi atal llong fferi rhag gadael porthladd Caergybi ddydd Mawrth.

Bu'n rhaid i 650 o deithwyr adael y llong a'u trosglwyddo i fferi arall ar ôl iddi daro yn erbyn un o furiau'r porthladd.

Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad. Mae'r cwmni fferi yn ceisio asesu unrhyw ddifrod a wnaed i'r llong.

Bu'n rhaid i Irish Ferries ganslo tri o'u gwasanaethau Swift yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd Irish Ferries: "Wrth i'r llong Jonathan Swift adael Caergybi cafodd ei dal gan wyntoedd cryfion a'i chwythu yn ôl i'r porthladd."

Mae gwyntoedd anarferol o gryf wedi creu tonnau mawr ar hyd arfordir y gorllewin yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gydag ambell wynt yn cyrraedd cryfder o 100 cilomedr yr awr.