Gwrthdrawiad bws Abertawe: Dyn yn yr ysbyty

Kingsway

Mae dyn 35 oed wedi ei gymryd i'r ysbyty wedi iddo gael ei daro gan fws ar Ffordd y Brenin yn Abertawe.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 16:00 ddydd Mawrth.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Treforys yn y ddinas.

Fe fu nifer o ddamweiniau marwol ar y ffordd o'r blaen. Cafodd rhwystrau diogelwch eu cyflwyno wedi marwolaeth heddwas yn gynharach eleni.

Cafodd Sarjant Louise Lucas, 41 oed, ei tharo gan fws ar y ffordd ar 31 Mawrth.