Trafod dathliadau Patagonia mewn darlith yn yr Eisteddfod

Elvey MacDonald

A ddylen ni fod yn dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia fel llwyddiant?

Dyna'r cwestiwn gafodd ei ofyn mewn darlith arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod ddydd Mawrth.

Yn narlith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bu Elvey MacDonald - gafodd ei fagu ym Mhatagonia - yn trafod y "methiannau" brofodd yr ymfudwyr, a'r effaith gafodd hynny ar y rhan honno o'r wlad.

Yn wreiddiol o Batagonia, erbyn hyn mae Mr MacDonald wedi symud i fyw yng Nghymru, ac mae'n ymchwilio i hanes y Wladfa.

'Dathlu beth?'

Yn ei ddarlith, 'Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu beth?', dywedodd Mr MacDonald nad digwyddiad ynysig oedd teithio i Batagonia, ond "penllanw dros ganrif o ymgyrchu" yn dilyn sawl ymdrech gynt, yng ngogledd America a Brasil, i sefydlu gwladfa dramor.

Ond yn ôl Mr MacDonald, mae hanes y Wladfa ym Mhatagonia yn llawn methiannau.

Hyd yn oed cyn dechrau, roedd oedi wrth drefnu llong ar gyfer y fordaith a diffyg cyfraniadau ariannol yn rhai o'r "anawsterau diderfyn" wynebodd y teithwyr cyntaf.

O'r diwedd, daeth y trefnwyr o hyd i'r Mimosa, a chapten oedd yn fodlon ei hwylio, ond roedd rhaid talu am addasiadau drud i'r hen long bren - arian a ddaeth o goffrau Michael D. Jones ei hun, gan nad oedd gan y teithwyr tlawd fodd i dalu.

Aeth pethau'n waeth, ac ar 25 Mai 1865 - gyda'r teithwyr yn barod i adael ar eu taith - roedd oedi oherwydd problem gyda ffurflenni'r capten, a chwyn gan feddyg oedd ar y llong am brinder moddion.

'Caledi, dioddefaint a'r colledion'

Yn dilyn siwrne galed - pan fu farw sawl plentyn - fe gyrhaeddodd y llong pen ei thaith.

Ond hyd yn oed yna, nid oedd unrhyw un wedi rhagweld y "caledi, dioddefaint a'r colledion" oedd yn aros amdanynt, meddai Mr MacDonald.

Image caption Dywedodd Elvey MacDonald bod rhaid canmol ymdrechion i wella cysylltiadau rhwng y gwledydd, fel wnaeth y Prif Weindiog, Carwyn Jones, yn ddiweddar

Flwyddyn ers sefydlu'r Wladfa, ychydig iawn o destun dathlu oedd, ac yn fuan wedyn fe gollodd yr ymfudwyr reolaeth ar yr ardal, aeth cwmnïau i'r wal, ac fe gollodd y Gymraeg ei statws swyddogol.

Roedd disgynyddion y teithwyr cyntaf yn ymbellhau eu hunain o'u gwreiddiau.

Doedd bod yn Gymro yn destun balchder tan 100 o flynyddoedd wedi'r glaniad, medd Mr McDonald.

Cafodd y sefyllfa ei "thrawsnewid" bryd hynny, meddai, ac roedd "bod yn Gymro yn destun balchder, ond heb y Gymraeg".

Er y balchder yn y cysylltiad, doedd yr iaith ddim ynghlwm â hynny.

Erbyn heddiw, dywedodd bod cynlluniau i dynhau cysylltiadau rhwng Cymru a thalaith Chubut, a bod yr iaith yn rhan amlwg o hynny.

Yn ddiweddar, meddai, mae ysgolion dwyieithog wedi eu hagor, ac "mae'n rhaid canmol ymdrechion".

Dywedodd y dylwn ddathlu bod y Wladfa wedi ei sefydlu heb dywallt gwaed na manteisio'n annheg ar unrhyw un, ac ychwanegodd y dylai disgynyddion ddathlu bod gobaith i ddyfodol yr iaith erbyn heddiw hefyd.

Ond gobaith Mr MacDonald yw y bydd y dathliadau 150 o flynyddoedd yn creu newid gwleidyddol yno.

Does Cymro erioed wedi bod yn llywodraethwr dros dalaith Chubut, a dywedodd y byddai hynny yn garreg filltir i'r Wladfa a'i phobl.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.