Lle Celf: Llai o artistiaid ond 'gwell profiad'

Lle Celf
Image caption Mae'r Lle Celf yn codi chwilfrydedd nifer o Eisteddfodwyr

I rai, mae'r Lle Celf yn un o'r prif atyniadau ar faes y Brifwyl pob blwyddyn. Ydych chi wedi bod yno eleni? Un sydd wedi, ac sydd wedi rhannu ei hargraffiadau gyda Cymru Fyw ydy'r arbenigwr celf, Nia Roberts.

Image caption Gwaith Glyn Baines: Enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

Prif enillwyr

Am wythnos bob haf mae'r Lle Celf yn oriel gyfoes genedlaethol lle cawn gyfle i gael cipolwg ar waith tua 50 o artistiaid.

Roedd Pwyllgor Maldwyn yn awyddus i leihau yn sylweddol ar nifer yr arddangoswyr gan wneud lle i gynnwys mwy o waith gan artistiaid unigol ac, os yn addas, roi cyfle i arddangos darnau llawer mwy o faint.

Mae hyn wedi esgor ar Le Celf sy'n wahanol iawn o ran amgylchedd a phrofiad i'r arferol - tydi'r llygad ddim yn trawo yn sydyn o un gwaith i'r llall ond yn hytrach cawn ein llywio i aros ac arsylwi ar waith yn fwy hamddenol ar waith oddeutu 22.

Mae dycnwch a dyfalbarhad yn eiriau sy'n dod i'r amlwg wrth ystyried llawer o'r gwaith, yn arbennig felly'r ddau brif enillydd.

Roedd yn wych gweld Glyn Baines o'r Bala yn derbyn y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain. Ag yntau'n 84 oed, dyma'r enillydd hynaf erioed ond mae ei waith mor ffres a thrawiadol, mae'n amlwg nad oes pylu o gwbl ar ei feddwl creadigol.

Cyflwyna gasgliad o waith haniaethol, collages o baent a phapur sydd, yn ei eiriau ef, "yn ddathliad o liw a bywyd" gyda theitl un darn yn dweud y cyfan - Cân i Goch a Gwyrdd.

Ydi, mae gwaith Glyn yn canu ac wrth arsylwi a myfyrio ar y lliwiau a'r siapiau ynddynt mae rhywun yn gwerthfawrogi egni a bywiolrwydd bywyd.

Image caption Gwaith Glyn Baines

Mae Cipio Eiliadau, gosodwaith trawiadol Rhian Hâf o Wytherin ger Llanrwst, enillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, hefyd yn waith sy'n dathlu ac yn dyrchafu, ond mewn modd gwahanol iawn.

Mae hwn yn waith sydd wedi bod yn cyniwair ganddi ers tro - efallai bod gwrandawyr praff Rhaglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru yn cofio Rhian yn son am ei syniad o daflu golau trwy ddarnau o wydr pan oedd Dewi yn darlledu o Gaeredin dro'n ôl. Braf yw gweld a phrofi'r darn gorffenedig yma.

Yn y tywyllwch cawn ein hudo at y blychau bach cywrain ac arsylwi ar y cysgodion gwahanol gaiff eu taflu o'r darnau gwydr ym mhob un.

Mae'r gwaith yn gyfuniad celfydd o gelf gysyniadol, crefftwaith cywrain ac ychydig o wyddoniaeth - gyda phob darn o wydr wedi'i fesur a'i drin yn ofalus i greu'r effaith deisyfadwy.

Image copyright Dewi Tannat Lloyd
Image caption Rhian Hâf (Llun: Dewi Tannat Lloyd)

Llai o artistiaid

Image caption Gwaith Sophie Southgate

Mae dyfalbarhad a chywreinrwydd yn dod i'r amlwg mewn gweithiau eraill hefyd - y gwead ar ochr allan a'r gyferbyniaeth lliwiau a siapiau hyfryd yn serameg Sophie Southgate; tlysau papur Jason Chart-Davies yn gerfluniau bach lliwgar; gwrthrychau bychan diddorol Ruth Harries; ffurfiau serameg Susan Phillips (enillydd y Fedal am Grefft a Dylunio llynedd) yn herio'r cyfrwng a rhesi llwyau serameg Zoe Preece yn hynod atyniadol gyda'r serameg wedi diferu o'r llwyau fel rhyw eisin melys hylifol.

O'r pethau bach i'r pethau mawr - dyma le gwelwn y gwahaniaeth amlwg yn y penderfyniad i gynnwys llai o artistiaid a chawn wledd o liw ym mhaentiadau enfawr Shani Rhys James a Catrin Webster.

Mae gweithiau gosod Carwyn Evans a Christine Mills yn sefyll allan, yn ein sodro i'r tir ar gaeau Mathrafal a chadarnhau bod gennym artistiaid cysyniadol sy'n gallu gweithio mewn modd diddorol a phellgyrhaeddol wrth ymdrin â'u cefndir gwledig Cymreig. Mae'r ddau waith yn rhyfeddol.

Image caption Gwaith Jason Chart-Davies

Tywyswyr

Un o'r pethau gwych am y Lle Celf ydi bod artistiaid sy'n newydd i ni yn dod i sylw a tydi eleni ddim yn eithriad.

Paentiadau mawr trawiadol David Dawson, sydd wedi ennill gwobr Gwobr Tony Goble i artist yn arddangos yn y Lle Celf am y tro cyntaf, a rhaid i mi grybwyll un o'm ffefrynnau: Lloerennau arnofiol James Gregory.

Pwy feddylia ar yr olwg gynta' mai cylchfannau traffig yw'r rhain? Anfarwol!

Mae tywyswyr - sy'n gwisgo'r crysau-t mwyaf cŵl ar y Maes gyda llun o waith Glyn Baines ar y tu blaen a marc cwestiwn mawr ar y cefn - yn cynnal teithiau tywys dyddiol ac wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a sgwrsio am y gwaith. Chwiliwch amdanynt neu ewch i'r gornel wybodaeth yn y Lle Celf i ganfod mwy.

Er bod llai o arddangoswyr o ran nifer - a does dim lle yma i grybwyll pawb - rwy'n teimlo ein bod yn cael gwell profiad o'u gwaith. Tydi hi ddim yn hawdd torri lawr o gynifer o geisiadau, yn enwedig pan fo rhaid gadael enwau cydnabyddedig allan - ond mae tâst pob detholwr yn wahanol, ac yn sicrhau bod blâs gwahanol i'r arddangosfa bob blwyddyn.

Dyna hyfrydwch y drefn a pham ei bod yn werth rhoi tro i'r Lle Celf.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015

Image caption Manylyn o waith Catrin Webster

Pynciau Cysylltiedig