Llofruddiaeth Russell Peachey: Tri yn y llys

Russell Peachey Image copyright Arall
Image caption Bu farw Mr Peachey yn yr ysbyty ddydd Sadwrn

Mae tri dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, Grangetown, am 04:20 ddydd Sadwrn ar ôl darganfod Russell Peachey, 35 oed, yn anymwybodol.

Fe wnaeth Dean Anthony Beasley, 37 oed, o'r Barri, Shaminder Singh, 40 oed, o Gaerdydd a Christopher James Smith, 34 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.

Fe siaradodd y diffynyddion i gadarnhau eu henw, cyfeiriad a dyddiad geni ac fe gafodd y tri eu cadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd yn hwyrach ddydd Mercher.