30,000 o wenyn wedi'u dwyn o fferm ar Ynys Môn

Gwenyn Image copyright Thinkstock
Image caption Credir bod y lladron â gwybodaeth am gadw gwenyn

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod 30,000 o wenyn wedi eu dwyn o fferm ar Ynys Môn.

Fe gafodd y gwenyn eu cymryd o fferm ar gyrion Bae Cemaes, rhyw bryd rhwng 20 Gorffennaf a 4 Awst.

Gyda phoblogaethau'n gostwng, dywedodd y Sarjant Gareth Rees bod gwenyn "o ddiddordeb cenedlaethol" ar hyn o bryd.

Dywedodd y Sarjant Rees ei bod yn debygol bod gan y troseddwyr wybodaeth am gadw gwenyn ac apeliodd i'r "gymuned cadw gwenyn am wybodaeth."