Criced: Glaw yn amharu

Roedd yna siom i Forgannwg am yr ail gêm yn olynol wrth i lawr roi diwedd ar y chwarae yn y gêm Cwpan Undydd yn erbyn Sussex yn Abertawe.

Yn y gêm flaenorol yn erbyn Hampshire bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chwarae oherwydd llain beryglus.

Yn erbyn, Sussex dim ond chwe phelawd oedd yn bosib oherwydd y tywydd.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 9-0 pan roddwyd gorau i'r chwarae.