Cyn-bennaeth ym Mhrifysgol Abertawe galw am ymchwiliad

Prof Nigel Piercy Image copyright The Waterfront
Image caption Fe gafodd yr Athro Nigel Piercy ei benodi yn Ddeon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013

Mae cyn bennaeth Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe wedi dweud wrth Newyddion 9 y bydd yn galw am ymchwiliad seneddol i'r modd y mae'r brifysgol yn cael ei rheoli.

Ymddiswyddodd yr Athro Nigel Piercy o'r sefydliad fis diwethaf, Yn ystod ei gyfnod yno, roedd yna nifer o honiadau gan staff o fwlio a bygwth.

Gwadodd yr Athro Piercy yr holl honiadau gan ddweud bod pobl "yn rhy groendenau".

"Os oes diwylliant o ofn, bygwth, neu fwlio, yna rwy'n meddwl mai fi sydd wedi dioddef."

Dywedodd hefyd ei fod e'n credu bod cadeirydd cyngor y brifysgol, Syr Roger Jones, wedi gweithredu y tu hwnt i reolau'r brifysgol trwy gynnal ei ymchwiliad ei hun i'r adran.

Mae'r Athro Piercy hefyd yn honni bod yr ymchwiliad hwnnw yn 'ddiffygiol'.

Doedd Syr Roger Jones na Phrifysgol Abertawe ddim am wneud sylw.