Heddlu'n chwilio am 'ddyn arfog'

Plismyn arfog
Image caption Cafodd plismyn eu galw i fflat yn Pater Court, Doc Penfro, am 13:20.

Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn oherwydd adroddiadau bod ymosodiad arfog yn Sir Benfro.

Cafodd plismyn eu galw i fflat yn Pater Court, Doc Penfro, am 13:20.

Aed â dyn i'r ysbyty oherwydd anafiadau i'w ben.

Cafodd rhywun arall ei arestio ar amheuaeth o ymosod a dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.