Saith Diwrnod

steddfod
Image caption Daw adolygiad Catrin Beard yr wythnos hon o Faes yr Eisteddfod ym Meifod

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i'r wasg Gmraeg a'r blogwyr yn Eisteddfod Meifod. Dyma rai o'r erthyglau sydd wedi hawlio sylw Catrin Beard yn ystod y dyddiau diwetha:

Mae Dylan Iorwerth wedi'i blesio. Yn ei golofn yn y Western Mail, mae'n canmol y gyfrol fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, sydd yn amlwg wedi cydio ynddo, ac yntau hanner ffordd drwyddi o fewn diwrnod iddi gael ei chyhoeddi.

Camp Mari Lisa, yn ôl Dylan, yw ei bod yn dweud stori dda yn syml - tuedd y rhan fwyaf o bobl sy'n sgrifennu yn Gymraeg ydi trio stwffio sylwadau i mewn nes baglu'r stori, neu esbonio gormod ar deimladau a bwriadau, yn lle gadael i symudiadau a digwyddiadau eu dangos nhw.

Ond tu cefn i'r pleser o weld nofel boblogaidd dda mae un o'r cwestiynau mawr sy'n wynebu'r Gymraeg, sef sut mae gwneud yn siŵr fod y Gymraeg yn cyrraedd ymhellach, yn gyson a thrwy bob math o gyfryngau.

Image copyright Alaw Griffiths
Image caption Alaw a Hywel Griffiths yn dathlu penblwydd eu merch Lleucu Haf yn ddiweddar

Un maes lle nad oes llawer o wasanaeth Cymraeg o bosib yw therapi i bobl â salwch meddwl.

Mae Alaw Griffiths wedi golygu casgliad o ysgrifau yn trafod profiadau nifer o Gymry o salwch meddwl, Gyrru Drwy Storom.

Ar wefan Cymru Fyw mae'n sôn mai'r hyn ysgogodd hi i fynd ati i greu'r gyfrol oedd cyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd ei merch tua naw mis oed.

Roedd rhaid iddi fodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i meddai i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella.

Wrth ddod yn gryfach dechreuodd bori'r we a siopau llyfrau ond methodd ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg, felly dyma fynd ati i greu'r gyfrol.

Ysgolion Uwchradd Cymraeg i Bowys?

Yn Golwg, mae galwad ar i'r Gymraeg gael lle amlycach yn sir yr Eisteddfod eleni, gyda llythyr agored gan nifer o bobl adnabyddus Powys at y Cyngor Sir yn galw am sefydlu Ysgolion Uwchradd Penodedig Cymraeg yng ngogledd y sir.

Mae'n fater o ofid trwm i'r llythyrwyr mai Powys yw'r unig sir yng Nghymru heb ysgol uwchradd o'r fath.

Ac yn ôl erthygl olygyddol y cylchgrawn, mae'r galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd eraill hefyd, gyda phlant de Powys yn teithio dros y ffin i Gastell-nedd Port Talbot er mwyn cael addysg drwy'r Gymraeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Amynedd Job

Ac o sôn am addysg, mae Glyn Adda ar ei flog yn ymateb i benderfyniad Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, i israddio Ysgrythur fel pwnc ysgol, penderfyniad nad yw'n ei gefnogi, ddim o gwbl, ddim ar unrhyw gyfrif.

Un o'r rhesymau am hyn yw fod y Beibl yn rhan o'n diwylliant. Rhydd inni sylfaen gyffredin o wybodaeth; un o ganlyniadau llai hynny, ond canlyniad da iawn ym marn Glyn Adda, yw gwneud yn bosibl fath arbennig o hiwmor, cyfeiriadaeth a pharodi.

Y dydd yr â 'amynedd Job', 'gwraig Lot', 'porthi'r pum mil' a 'Samariad trugarog' yn ymadroddion annealladwy, dydd trist fydd hwnnw.

Image caption Adlenni twt Maes Carafanau'r Brifwyl wnaeth ysbrydoli colofn Aled Sam yn Golwg

Smwddio adlenni?

Yn ôl yn yr Eisteddfod, yn ôl Aled Sam, ar y maes carafanau mae'r gwir gystadleuaeth. Anghofiwch Llwyd o'r Bryn, y Rhuban Glas, y coroni a'r cadeirio.

Oni bai bod eich adlen chi'n edrych fel petai wedi cael haearn smwddio, chi'n neb. Dyw Aled ddim wedi gweld gymaint o gorneli crisp a phaneli llyfn yn ei ddydd.

Ag yntau'n carafanio yn yr Eisteddfod ers deuddeng mlynedd, mae Aled yn amau bod rhywun wedi bod yn cymryd nodiadau y llynedd er mwyn corlannu'r adlenni shabby i gyd at ei gilydd mewn un cornel siomedig o'r golwg o'r maes carafanau.

Ond ymfalchio yn lliprwydd ei gynfasau mae Aled - gadewch i'r rhaffau ysgwyd yn rhydd yn y gwynt yw ei alwad. Wel wir, tybed geith o ddod yn ôl y flwyddyn nesaf?