Hywel Griffiths yn ennill Cadair Eisteddfod 2015

Hywel Griffiths

Hywel Griffiths, yn wreiddiol o Langynog, Sir Gâr ond yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni yn y pafiliwn brynhawn ddydd Gwener.

'Gwe' oedd y testun eleni, gyda'r beirniaid Mererid Hopwood, John Gwilym Jones a Twm Morys yn chwilio am awdl neu dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau.

Roedd hon yn gystadleuaeth agos gyda'r beirniaid yn canmol gwaith 'Ceulan' a 'Cwm Du', gyda 'Cwm Du' yn cael ei ddisgrifio fel 'storïwr naturiol' a 'Ceulan' fel 'y corddwr anesmwyth'.

Mererid Hopwood wnaeth draddodi'r feirniadaeth, ac wrth sôn am waith 'Ceulan', dywedodd "fod awdl Ceulan yn llawn haeddu'r gadair".

'Pob anrhydedd'

Dywedodd: "O'r cychwyn, sylweddolwn ein bod yng nghwmni bardd sy'n gweld ymhell ac yn gwrando'n astud: 'Clywaf ei lais yn crafu/ewinedd dweud ar fwrdd du'.

"Mae'n pendilio rhwng y presennol a'r gorffennol gan ddechrau mewn ward ysbyty yng Nghymru eleni, lle mae henwr ar ei wely angau'n cofio nôl i Ryfel Cartref Sbaen a'r cydymdeimlad brawdol a ddenodd gymaint o Gymry i fynd i ymladd yn erbyn Ffasgaeth.

"Ond nid cofio un gyflafan yn unig a wna Ceulan. Drwy'r we fyd-eang, mae'n clicio dolenni a chyrraedd Gaza lle mae 'Lladd ar y Llain!♯C'wilydd! Celain!', ac yna'n gynnil grefftus, heb ochri, defnyddia hanes y Gododdin i'n hatgoffa mai lladd yw canlyniad pob rhyfel. Mae'n clywed 'corws cras eco'r oesoedd', ac mae'r bechgyn 'trwy'r bore fel trwy beiriant yn martsio'. Yna'n ysgytwol dywed am ryfel yn troi 'fesul llanc, /flodau haf yn flawd ifanc'.

"Cyn diwedd y gerdd dychwelwn i Sbaen gyfoes, lle mae ymgais ddiweddar i roi beddau newydd i filwyr dwy ochr Y Rhyfel Cartref wedi codi'r hen atgofion rhanedig. Ac mae peryglon gwasgu pethau i gefn y cof yn thema bwysig arall ganddo: 'O roi'r cof dan glawr cyfyd / yr anghofio'n gofio i gyd', meddai. Yna wrth i'r henwr farw, mae'r bardd yn canu 'i deipio dur/ a chreu rhan fach o'r hen fur' - y mur anweledig sydd ynom ni yn cynnal ein brawdoliaeth.

"Daeth amser cloriannu - Cwm Du neu Ceulan? Cwm Du y cynganeddwr rhwydd, Ceulan bardd y llinellau grymus? Cwm Du y storïwr naturiol? Ceulan y corddwr anesmwyth.

"Heb os, byddai cerddi Cwm Du yn haws i'w mwynhau ar y darlleniad cyntaf, ac yn canu mewn pebyll ac ar aelwydydd cyn chwech o'r gloch heno - ac mae Twm Morys yn dweud, mae'n siŵr pe byddai fe ar ei hunan bach yn beirniadu, Cwm Du fyddai wedi mynd a hi, ac eto mae'n cydnabod falle bod cof am brifwyl heulog 2003 wedi lliwio chydig ar ei farn, gan ddweud fel hyn 'mae awdl Ceulan yn fwy uchelgeisiol, yn fwy sylweddol yn y pen draw'. Mae John Gwilym a finnau hefyd o'r farn bod y ddwy gerdd hyn yn haeddu ei gwobrwyo a chael gwrandawiad cenedl.

"Felly, am y wefr, ac am ddyfnder y dweud, ac am ein bod ni'n tri'n cyd-weld yn llwyr fod awdl Ceulan yn llawn haeddu'r gadair, Ceulan fydd yn chwilio am gornel i'r celficyn hardd hwn eleni. Gyda phob anrhydedd."

'Uchelgais'

"Dwi 'di bod eisiau sgwennu am y Rhyfel Cartref yn Sbaen ers blynyddoedd lawer, ond heb gael testun addas.

"Wedyn yn ystod 'Steddfod y llynedd roedd digwyddiadau Gaza, ac fe wnaeth rhywbeth glicio adeg hynny, ac o'n ni'n meddwl y byddai'r ddau beth yn gallu cysylltu - bod 'na we yn cysylltu'r gorffennol a'r presennol."

Yn ymateb i sylwadau'r beirniaid yn ei ddisgrifio fel "bardd y llinellau grymus", dywedodd ei fod yn falch iawn o'r clod.

"Dyna beth 'chi eisiau, yn sicr fel bardd cynganeddol - rhywun yn cydnabod bod eich crefft chi yn gryf, a fi'n falch iawn eu bod nhw wedi ei fwynhau."

"Mae hi wedi bod yn uchelgais gen i ers dechrau barddoni i ennill y gadair. Fel nifer o bobl eraill, mae gen i atgofion arbennig o 'Steddfod Meifod y tro diwethaf ac mae ennill y gadair yn fan hyn yn brofiad cyffrous a chynnes.

"Bydd hi'n braf gweld ffrindiau ac ymddiheuro iddyn nhw heno. 'Dw i wedi gorfod dweud celwydd wrthyn nhw trwy'r wythnos i gadw'r gyfrinach."

Cefndir

Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio yno ers 2009. Symudodd i Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth a Mathemateg ac aros i astudio ar gyfer gradd meistr a doethuriaeth, ac mae bellach yn byw gyda ei wraig, Alaw a'u merch, Lleucu yn Nhal-y-bont.

Enillodd ddwy gadair yn Eisteddfod yr Urdd, ac ef oedd bardd y goron yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch, 2008. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Glêr, ac yn ymrysona yn yr Eisteddfod gyda thîm y Deheubarth. Mae ei gerddi wedi ymddangos yn Barddas, Taliesin a Poetry Wales a chyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth - Teigr yn y Gegin, a dwy nofel, Dirgelwch y Bont a Haciwr. Enillodd Dirgelwch y Bont wobr Tir na n-Og yn 2011.

Ei faes ymchwil yn Aberystwyth yw geomorffoleg afonol, llifogydd a pherthynas pobl gyda'r tirlun, ac mae wedi bod yn ffodus i gael gweithio yn Nghymru, Patagonia, a de Affrica.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cadeirio'r Bardd / Chairing of the Bard

Yn y seremoni, yr olaf i'r Archdderwydd Christine James, cafodd yr Archdderwydd nesaf, y Prifardd Geraint Lloyd Owen ei gyflwyno.

Eleni mae'r gadair yn creu hanes gan ei bod wedi ei chreu gan y person ieuengaf erioed.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

Straeon perthnasol