Nofio: Medal aur i Gymro

Britain's team members celebrate victory in the men's 4x200m freestyle relay Image copyright Getty Images
Image caption Tîm buddugol Prydain gyda'u medalau

Mae Calum Jarvis o Gymru wedi ennill medal aur fel aelod o dîm ras gyfnewid 4X200m dull rhydd Prydain ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd yn Rwsia.

Mewn diweddglo dramatig fe nofiodd James Guy y cymal olaf a phasio tîm yr Unol Daleithiau wedi i Jarvis, Dan Wallace a Robbie Renwick gadw Prydain yn y ras.

Gorffennodd y tîm gydag amser o 7 munud 4.33 eiliad i gipio'r aur gyda'r Unol Daleithiau'n ail ac Awstralia'n drydydd.

Yr Unol Daleithiau oedd wedi ennill y ras arbennig yma yn y pum Pencampwriaeth Byd diwethaf.

Bydd Jazz Carlin yn gobeithio ennill medal arall i Gymru (ar ran Prydain) yn y ras 800m nos yfory.