AS Ogwr Huw Irranca-Davies ddim yn difaru enwebu Jeremy Corbyn

Huw Irranca-Davies AS
Image caption Mae Huw Irranca-Davies wedi enwebu Jeremy Corbyn ond fydd e ddim yn pleidleisio drosto

Mae AS Ogwr, Huw Irranca-Davies wedi dweud nad yw'n difaru enwebu Jeremy Corbyn ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Roedd e'n ymateb i feirniadaeth ddi-enw ohono yn y Western Mail a honnodd ei fod Mr Irranca-Davies yn "un o'r rheiny sy'n gyfrifol am y sefyllfa mae'r blaid bellach yn ei hwynebu, ble y gallai Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd gan ein condemnio ni [Llafur] i nifer yn fwy o flynyddoedd fel gwrthblaid."

Wrth siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd yr AS: "I fod yn glir, nes i ei enwebu fe, nid ei gefnogi fe. Fe wnes i'n glir mai'r hyn roeddwn i'n ei wneud oedd ei gael e ar y rhestr."

'Nid cwlt ydyn ni'

Dyfynnodd e un o'r ymgeiswyr ar gyfer y dirprwy arweinyddiaeth a ddywedodd: "Nid cwlt ydyn ni, nid un llais sydd gennym ni. Rydyn ni'n blaid gydag ystod eang o leisiau, rydyn ni eglwys lydan... a dwi'n falch iawn o hynny.

"Mae fy mhlaid etholaethol i, o fwyafrif aruthrol, wedi cefnogi ac wedi enwebu Yvette Cooper.

"Mae 'na lawer o ymgeiswyr da yn y ras. Rwy'n falch fod gennym ni ddadl fywiog.

"A dwi gyda 'mhlaid etholaethol, dwi'n meddwl bod Yvette yn ymgeisydd cryf, ond mae eraill yn ymgeiswyr cryf hefyd.

'Lle da i fod'

"Mae hyn yn lle da i fod wrth fynd fewn i gymalau ola'r ras, ac mae'n amser nawr i'r gweddill gyflwyno'u hachos yn gryf iawn iawn."

"Dwi wedi f'argyhoeddi o un peth: Mae angen i'r Blaid Lafur ennill etholiadau, dydyn ni ddim yno jyst i fod yn blaid brotest."

Ond oedd e'n difaru enwebu Jeremy Corbyn? "Na. Yr hyn mae Jeremy wedi ei wneud yw dod ag eglurder ac angerdd.

"Mae nifer o bobl yn cytuno gydag e, llawer o bobl yn anghytuno, ond nid cwlt yw hwn, nid plaid un llais yw Llafur.

"Mae'n fater eraill nawr i gamu mlaen ac ennill y ddadl honno."

Mae yna bedwar ymgeisydd yn y ras i arwain Llafur: Andy Burnham, Yvette Cooper, Jeremy Corbyn a Liz Kendall.

Bydd papurau balot yn cael eu hanfon i aelodau'r blaid, cefnogwyr cofrestredig a chefnogwyr cysylltiedig (gan gynnwys pobl sydd wedi ymuno trwy undeb) ar 14 Awst.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.