Swydd Gaerloyw'n curo Morgannwg o 7 wiced

Enillodd Swydd Gaerloyw o saith wiced ar ddiwrnod olaf ei gêm bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Sain Helen.

Gyda tharged o 108 yn unig, dim ond 8.1 pelawd oedd yn bosib yn ystod sesiwn y bore oherwydd y glaw wrth i'r ymwelwyr gyrraedd 13-0

Ar ôl cinio bowliodd Graham Wagg Will Tavare a Gareth Roderick allan.

Ond sgoriodd yr agorwr Chris Dent 65 heb fod allan i helpu'i dîm i 108-3.

Dyma oedd trydedd colled Morgannwg o'r bron yn adran dau, tra bod Swydd Gaerloyw'n symud lan i'r pedwerydd safle, yn gyfartal o ran pwyntiau a Swydd Northampton sy'n bumed.