Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn damwain moped

Ffordd Image copyright Google
Image caption Roedd y ffordd ar gau am bum awr wedi'r gwrthdrawiad

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr moped fu farw wedi gwrthdrawiad gyda lori yng Nghaerdydd nos Lun.

Dywedodd deulu Amir Ahmed Kassim-Dogan, 25 oed, ei fod yn "ddyn ifanc llawn egwyddor oedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau".

Bu Heol Gwynllwg yn ardal Tredelerch ar gau am bum awr wedi'r digwyddiad am 17:10.

Roedd dau foped yn teithio ar y ffordd pan darodd un y lori.

Digwyddodd y ddamwain ger y gyffordd gyda Ffordd Mardy ac mae'r heddlu yn apelio am dystion.