Ffrae rhwng Llafur a Phlaid Cymru am bleidlais arweinydd

Chris Bryant
Image caption AS Y Rhondda Chris Bryant sydd bod wedi mewn ffrae ar wefannau cymdeithasol

Mae rhai o gefnogwyr Plaid Cymru'n ymuno â Llafur er mwyn pleidleisio i Jeremy Corbyn, medd AS Llafur.

AS Y Rhondda Chris Bryant sy' wedi bod mewn ffrae ar wefannau cymdeithasol ynglŷn â pha blaid y mae unigolyn yn perthyn iddi.

Mae Esther Nagle wedi honni bod yr AS wedi ymyrryd â'i phreifatrwydd ond mynnodd ei bod yn cefnogi Plaid Cymru o hyd.

Dywedodd Mr Bryant, sy'n cefnogi Yvette Cooper, mai dim ond gwir gefnogwyr Llafur ddylai ethol arweinydd Llafur.

Yr ymgeiswyr eraill yw Andy Burnham a Liz Kendall.

Dywedodd Mr Bryant ar raglen Newsnight ei bod yn wych bod cymaint am bleidleisio ond bod rhai agweddau'n achosi gofid iddo.

'Cofrestredig'

"Yn fy etholaeth mae dau o bobl sy'n cefnogi Plaid Cymru'n frwd ond wedi yn bleidleiswyr cofrestredig ar gyfer yr etholiad," meddai. "Fyddan nhw ddim yn cael pleidleisio."

Roedd Ms Nagle yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau lleol 2012 a dywedodd ei bod "yn warthus" bod Mr Bryant wedi trafod ei phenderfyniad i ymuno gyda Llafur.

"Dwi ddim yn aelod o Blaid Cymru... daeth fy aelodaeth i ben ychydig yn ôl ond dwi'n cefnogi'r blaid o hyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw aelod yn ymuno â Llafur... fe fyddai aelod sy'n ymuno â phlaid sy'n ein gwrthwynebu yn cael ei ddiarddel.

"Mae'r etholiad ar gyfer arweinydd yn fater mewnol i'r blaid honno."