Creu 70 o swyddi wrth i gwmni o America sefydlu pencadlys

Hospital trials Image copyright Other
Image caption Dywedodd y cwmni y byddai 70 o swyddi yn cael eu creu dros gyfnod o ddwy flynedd

Mae cwmni o'r Unol Daleithiau, sy'n arbenigo ar waith ymchwil clinigol, wedi dweud eu bod yn sefydlu pencadlys Ewropeaidd yng Nghymru, gan greu 70 o swyddi.

Bydd cwmni Accelovance yn agor pencadlys yn ardal Abertawe gyda help ariannol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, roedd y cwmni wedi ystyried sawl lleoliad cyn dewis Cymru.

Mae pencadlys Accelovance yn Rockville, Maryland, ond mae safle bach yn Bury St Edmunds yn Sir Gaergrawnt.

Dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio y bydd y safle yng Nghymru yn fodd i'r cwmni ehangu eu marchnad yn y Deyrnas Gyfun ac Ewrop.

'Buddsoddiad sylweddol'

Mae Ms Hart wedi dweud: "Mae Cymru'n gwneud enw i'w hunan fel lleoliad gwych ar gyfer busnesau yn y sector gwyddorau bywyd ac ar gyfer y gwasanaethau fferyllol yn gyffredinol.

"Mae Accelovance yn ychwanegiad gwych i'r sector a bydd eu presenoldeb yn gwella ein henw da yn y sector.

"Prosiect gwych yw hwn i Gymru ac yn fuddsoddiad sylweddol."

Dywedodd Jamie Oliver, cyfarwyddwr gweithredol y cwmni yn Ewrop ac Asia: "Mae'r cyfle y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi yn ein galluogi i symud ein prif weithrediadau yn y DG i'r rhanbarth, rhanbarth sydd â gweithlu medrus iawn ym maes gwyddoniaeth i gefnogi twf Accelovance."

Yn 2014 roedd y farchnad ymchwil clinigol yn werth tua £15 biliwn.