Tremmel yn ôl yn Abertawe

Gerhard Tremmel Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gerhard Tremmel

Mae Abertawe wedi ail arwyddo'r golgeidwad Gerhard Tremmel ar gytundeb dwy flynedd.

Cafodd y chwaraewr 36 ei ryddhau gan y clwb ym mis Mai ond mae'n dychwelyd wedi nifer o newidiadau ymhlith golwyr eraill yr Elyrch.

Ddiwedd tymor 2014-15 fe wnaeth David Cornel ymuno ag Oldham, tra bod Oliver Davies wedi ymuno â Kilmarnock ar fenthyg.

Mae Kristoffer Nordfeldt wedi ymuno ag Abertawe o Heerenveen.

"Mae'n wych bod yn ôl yn Abertawe, mae'n glwb arbennig," meddai.

"Rwy'n falch i fod yn rhan o'r clwb. Roedd gennyf opsiynau eraill yn yr Alban a Lloegr, ond Abertawe yw'r lle i mi. "