Leighton Andrews eisiau Yvette Cooper fel arweinydd

Leighton Andrews ac Yvette Cooper
Image caption Mae Leighton Andrews wedi galw i Yvette Cooper i ddangos ei angerdd

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews wedi dweud ei fod yn cefnogi Yvette Cooper yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Fe wnaeth yr aelod y Cynulliad dros Y Rhondda alw arni i ddangos ei angerdd yn ystod mis olaf yr ymgyrch.

Dywedodd bod angen i Lafur ddewis arweinydd sy'n gallu ennill etholiadau, nid dychwelyd i wleidyddiaeth y 1950au.

Ychwanegodd bod Llafur wedi ymddangos yn "wrth-lymder ac yn analluog yn economaidd" yn ystod yr etholiad cyffredinol.

Gyda nifer yn ystyried yr ymgeisydd asgell chwith Jeremy Corbyn fel y ffefryn, dywedodd Mr Andrews ei fod yn deall yr apêl "ramantus" o wrthwynebu toriadau trwm i wariant cyhoeddus.

Ond mae'n rhaid i Lafur ddod i rym yn gyntaf er mwyn gallu newid unrhyw beth, meddai.

Ail bleidlais i Burnham

Mewn erthygl ar yr arweinyddiaeth, dywedodd: "Rhaid i Lafur naill ai fod yn y busnes o gyflwyno newidiadau neu mae'n ddi-werth."

Mae Mr Corbyn wedi ennill enwebiadau gan fwy o ganghennau lleol y blaid yng Nghymru na'i wrthwynebwyr.

Er nad yw'n enwi Mr Corbyn, dywedodd Mr Andrews mai siarad â'r cyhoedd ddylai fod y flaenoriaeth, nid ennill etholiadau mewn cyfarfodydd lleol o'r blaid heb lawer o aelodau yn bresennol.

Ychwanegodd Mr Andrews y byddai'n rhoi ei ail bleidlais i Andy Burnham.

Straeon perthnasol