100 o swyddi ffatri peirianneg yn y fantol

Universal Engineering
Image caption Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu newyddau ar gyfer y diwydiant amddiffyn

Mae 100 o swyddi yn y fantol wedi i gyflenwr olew a nwy gyhoeddi ei fod yn disgwyl mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Fe wnaeth cwmni Universal Engineering agor ffatri newydd yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, y llynedd yn dilyn buddsoddiad £2m gan Llywodraeth Cymru.

Mae gweithwyr wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o'r sefyllfa gan y tîm rheoli, sydd wedi rhoi'r bai ar ddiffyg buddsoddiad yn y diwydiant olew a nwy.

Mae gan y cwmni ffatri arall yn sir Dorset.

Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn 1959, a chafodd ei brynu gan y Bland Group yn 2009.

Dywedodd prif weithredwr Bland Group UK Henry Game: "Mae ein gweithluoedd yn grŵp ffantastig o bobl sydd â sgiliau a phrofiad arbennig. Dyma ddiwrnod trist i ni oll."