Llanc 16 oed yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth

Heol Casnewydd Image copyright Google
Image caption Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Casnewydd am 19:15 ar 3 Awst

Mae llanc 16 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i bensiynwr farw yn dilyn ymosodiad honedig yng Nghaerdydd.

Fe gafodd Michael Harrington, 67 oed, ei drywanu ar 3 Awst ar Heol Casnewydd yn ardal Grangetown.

Cafodd y llanc ei arestio ac fe gafodd Mr Harrington ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae bellach wedi marw.

Ddydd Mercher, fe wnaeth y llanc ymddangos yn y llys ble gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth. Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.