Ergyd Malone yn sicrhau pwynt i Gaerdydd

Image copyright Empics
Image caption Hill yn rhoi QPR ar y blaen

QPR 2-2 Caerdydd

Fe wnaeth gôl gan Scott Malone yn hwyr yn y gêm sicrhau pwynt l i Gaerdydd oddi cartref yn QPR.

Bu'n rhaid i dîm y brifddinas frwydro'n galed yn yr ail hanner gan eu bod 2-0 ar ei hol hi ar un adeg.

Y tîm cartref aeth ar y blaen yn erbyn rhediad y chwarae pan wnaeth Clint Hill benio i gefn y rhwyd o groesiad Matt Phillips.

Roedd hi'n ymddangos bod y bêl wedi taro llaw Hill ar ôl cornel arall wedi 56 munud ond fe fanteisodd Austin ar y bêl rydd i sgorio'r ail.

Fe wnaeth peniad Sean Morrison leihau'r bwlch wedi 63 munud, cyn i Malone ergydio i gefn y rhwyd o 22 llath.

Bydd Caerdydd yn teimlo eu bod yn haeddu o leiaf pwnt o'r gêm. Roedd yna amheuaeth am ail gol QPR a hefyd fe wnaeth Caerdydd ildio dwy gol pan mai nhw oedd y tîm oedd yn ymosod.