Ras arweinyddiaeth Llafur: Yvette Cooper yn dod i Gymru

cooper Image copyright PA

Mae Yvette Cooper, un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur, yn dod i Gymru, gan honni mai dim ond hi all drechu Jeremy Corbyn.

Bydd llefarydd Llafur ar faterion cartref yn cwrdd ag aelodau yng Nghei Connah, Sir y Fflint, lle aeth Mr Corbyn ddydd Llun.

Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews, a'r Aelodau Seneddol o Gymru, Chris Bryant ac Ann Clwyd, eisoes wedi cefnogi Ms Cooper yn gyhoeddus.

Fe fydd papurau pleidleisio yn cael eu hanfon ddydd Gwener i aelodau'r blaid a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.

Fe fydd yr ymgeiswyr eraill, Andy Burnham a Liz Kendall, yn ymweld â Wrecsam a Chaerdydd ddydd Sul.

Ennill

Gyda mis ar ol tan i'r canlyniad gael ei gyhoeddi, , mae'r ffocws wedi bod yn gynyddol ar y posibilrwydd y gallai Mr Corbyn ennill.

Mae'r cyn Brif Weinidog Tony Blair wedi awgrymu y byddai Llafur o dan arweiniad Mr Corbyn yn rhy eithafol.

Ond dywedodd AS Aberafan, Stephen Kinnock, wrth BBC Cymru "y gallai sylwadau o'r fath gan arweinwyr yn y gorffennol fod yn wrthgynhyrchiol ... Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r dyfodol, nid y gorffennol."

Image copyright BBx
Image caption Tony Blair: Yn erbyn Mr Corbyn

Dydd Iau honnodd Ms Cooper fod polisïau economaidd Mr Corbyn yn "anghredadwy".

Fe ddaeth ymweliad deuddydd Corbyn yng Nghymru i ben nos Fawrth gyda rali yng Nghaerdydd ddenodd tua 1,000 o gefnogwyr.

Mae Mr Burnham wedi derbyn cefnogaeth y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, fydd yn cadeirio sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r blaid yn Wrecsam ddydd Sul.

Fe fydd Ms Kendall yn cwrdd â'i chefnogwyr yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol