Gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Mae gyrrwr fan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â chraen ar ffordd yr A48 yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Porthyrhyd a Foelgastell fore Gwener.

Mae'r ffordd ar gau ac mae gwyriadau mewn lle.

Dywedodd y Sarjant Ian Price o adran Blismona Ffyrdd Heddlu Dyfed Powys : "Derbyniodd yr heddlu alwad fod gwrthdrawiad wedi bod ar ffordd ddwyreiniol yr A48 rhwng Porthyrhyd a Foelgastell tua 05:45 rhwng craen a fan Peugeot.

"Yn drasig, bu farw'r gyrrwr y fan a'r lle oherwydd ei anafiadau ac mae perthynas agosaf y dyn wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu oedd yn teithio ar hyd y ffordd, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.