Saith Diwrnod

Eisteddfod
Image caption Roedd yna ganmol am safon y Maes ym Meifod

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i'r wasg Gymraeg a'r blogwyr ar ôl Eisteddfod Meifod. Dyma rai o'r erthyglau sydd wedi hawlio sylw Catrin Beard yn ystod y dyddiau diwetha:

Roedd fwy neu lai pawb yn cytuno ei bod hi'n Eisteddfod dda, yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, ac un peth yr oedd pawb yn gytûn ag o oedd safon y Maes.

Ac mae'n holi felly pam yn y byd mae awdurdodau'r Eisteddfod hyd yn oed yn ystyried y syniad o gael Eisteddfod 2018 yn rhai o adeiladau canol dinas Caerdydd.

Os ydyn nhw'n cofio ymgais Eisteddfod yr Urdd i wneud rhywbeth tebyg, mi fyddan nhw'n cofio am fethiant affwysol yr arbrawf, a'r teimlad difywyd, dieithr oedd i'r digwyddiad hwnnw.

Be sy' ar eu pennau nhw?

Wel mae'r ateb i'w gwestiwn i'w weld ar dudalen arall yn yr un cylchgrawn.

Image caption A fydd y digwyddiadau mewn adeiladau yn hytrach na'r Pafilwin Pinc yn 2018?

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae'n cael ei demtio i gynnal digwyddiadau'r ŵyl mewn adeiladau yng nghanol y brifddinas.

Mae cymaint o bethau yno, meddai, Neuadd Dewi Sant, y castell, amgueddfa, yr hen lyfrgell, strydoedd llydan.

Yn ôl Elfed, codi proffil yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg ydi unig bwrpas yr Eisteddfod (byddai rhai'n dadlau bod dathlu a byw ein diwylliant drwy'r Eisteddfod hefyd yn bwysig, ond fe adawn ni hynny am y tro).

Os ydi hi'n mynd i Gaerdydd, dywed, a bod hynny'n golygu bod y Gymraeg yn mynd i ddod oddi yna'n gryfach, mae'n werth ei wneud.

Amenio hynny mae Menna Elfyn yn y Western Mail.

Syniad gwych meddai yw cymryd drosodd canol Caerdydd. Byddai hyn yn sicrhau ac yn cryfhau holl ymwybyddiaeth y Cymry di-Gymraeg heb sôn am roi gwedd ryngwladol i'r ŵyl.

Fel un sydd wedi teithio i wyliau ar draws y byd, dyna sy'n digwydd yn aml iawn, sef bod yr ŵyl yn cael ei gweld yn ogystal â'i chlywed - hyder, hwnna sydd eisiau arnom.

Image caption A oes gormod o gymhelliad i aros ar y Maes yn hytrach nag ymweld ag atyniadau lleol?

Gwir y dywed Ifan Morgan Jones ar ei flog nad oes dim byd yn fwy tebygol o gynnau dadl ymysg y Cymry Cymraeg na cheisio newid yr Eisteddfod.

Mae newid yn anochel ac i'w groesawu yn ôl Ifan, ac mae nifer o'r traddodiadau Eisteddfodol sydd mor annwyl i ni erbyn hyn yn ganlyniad i ddyfeisiadau damweiniol neu fwriadol dros y degawdau.

Ond mae'n holi oes angen i'r Eisteddfod fod yn rhyw fath o venus fly trap, yn llechu ymysg strydoedd Caerdydd yn disgwyl i gael traflyncu pobl sy'n digwydd taro heibio?

Cydbwysedd sydd ei angen meddai, gan gydnabod efallai fod y maes bellach yn rhy fawr, a gyda'r holl ddigwyddiadau gyda'r nos, does dim cymhelliad dros adael y maes ei hun o gwbl.

A dyna sy'n poeni Lleu Williams. Mewn blog ar wefan ClickonWales, dywed ei bod yn hen hanes bod yr Eisteddfod yn dod â llu o fuddion economaidd i unrhyw ardal leol.

Mae'r rhain yn cynnwys gwariant lleol, pobl yn aros mewn gwestai ac ati, ond mae'n eithaf amlwg dros yr eisteddfodau diwethaf bod tafarnwyr lleol yn dechrau dioddef.

Ac mae Lleu yn cyfaddef ei fod yntau ei hun yn prynu tocyn i'r maes, ac yn aros yno gyda'r hwyr.

Does dim angen gadael pan mae yna ddetholiad o gwrw, bwyd o bedwar ban byd a cherddoriaeth wych yn chwarae.

Y cyfan yng nghwmni hen ffrindiau. Be well? Ond canlyniad hyn oll yw bod tafarnau lleol (llawer yn wynebu nifer o broblemau economaidd yn barod) yn colli allan.

Ac mae yntau'n holi beth yw'r ateb.

Ai cyfyngu ar nifer oriau bariau'r steddfod a'u cau am 6pm? Gwahodd tafarnau lleol i sefydlu bariau pop up ar faes y steddfod a'r maes carafannau?

Neu - yr opsiwn eithafol - cael gwared ar y bar ar y maes yn gyfan gwbl?

Nawr dyna i chi destun trafod.