Diwrnod i'r brenin: Jarman yn 65

Geraint Jarman yn perfformio yn Tafwyl yn gynharach yn yr haf
Image caption Geraint Jarman yn perfformio yn Tafwyl yn gynharach yn yr haf

Mae Geraint Jarman yn cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yr haf yma. Pwy fyddai'n meddwl bod y canwr poblogaidd bellach yn 65?

Dyma flas o sgwrs gafodd y DJ Huw Stephens gyda Geraint ar C2 Radio Cymru ym mis Ionawr pan gyhoeddodd Geraint ei albwm newydd 'Dwyn yr hogyn nôl'.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud pan dwyt ti ddim yn gweithio neu'n creu cerddoriaeth?

Rwy'n mwynhau coginio a gwylio pêl-droed os oes 'na gêm dda ar y teledu. Rwy'n falch bod Caerdydd wedi mynd yn ôl i wisgo glas.

Er mai Caerdydd oeddwn i'n ddilyn pan yn iau mi nes i droi at Lerpwl pan 'naeth John Toshack symud yno yn y '70au.

Doeddwn i ddim yn yr ysgol efo fo ond roeddwn i yn ffrindiau gyda Terry Yorath (cyn-gapten a rheolwr Cymru), roedd o yn yr un dosbarth â fi ac ro'n i'n mynd i'w weld o yn chwarae i Cardiff Boys.

Roedd gen i ffrind ac roedd ei dad o'n self-made man ac roedd ganddo fo docynnau tymor felly ro'n i a'n ffrind yn cael cyfle i weld Lerpwl yn eitha aml.

Mae dylanwad pêl-droed ar rai o dy ganeuon hefyd, fel 'Eilydd Na Ddefnyddwyd'?

Ydi. Nes i sgwennu 'Kenny Dalglish' ar albwm 'Rhiniog' yn dilyn trychineb Hillsborough. Roedd Kenny Dalglish wedi mynd i bob c'nebrwng ac roedd o bron â thorri. Felly nes i sgwennu "Rwy'n teimlo fel Kenny Dalglish" a "be' 'di'r pwynt o fod yn manager y mis".

Roedd pêl-droed yn rhan fawr o'm mywyd i ac ro'n i'n chwarae yn y Cardiff and District League. Roeddwn i hefyd yn chwarae frizbee lot, dwli chwarae frizbee. Dyna fersiwn Geraint Jarman o gadw'n ffit!

Image copyright BBC Sport

Ac mae gen ti gân am gymeriad eiconig arall ar yr albwm newydd - Kylie Minogue?

Oes. Mae 'Hiraeth am Kylie' yn eitha swreal. Cyflwr ydi o, pan 'da chi'n hiraethu a dyheu am ryw gyfnod o'ch bywyd - yn edrych nôl.

Dwi'n cofio edrych nôl pan ro'n i'n gweithio efo Neil White ddiwedd yr 80au ac roedd llwyth o synths newydd wedi dod mas. Bob tro roeddwn i'n mynd i weithio gyda fo roedd o'n gwisgo crys-t Kylie! Roedd o'n gweithio yn Ponty Market yn gwerthu carpedi ac roedd ganddo grys-t hefyd oedd yn dweud 'Frankie says go to Ponty Market'!

Roedd y gân wedi cael ei recordio yn y sesiwn ola', ac mae gen i rywbeth am y sesiwn ola' ar bob albwm. Roedd y bois yn chwarae yn dda iawn. Roedd o'n eitha modal ac ro'n i isio rhywbeth seicadelig fel 'The Doors'.

Mae dy ferched Hanna, Mared a Lisa yn canu lleisiau cefndir?

Ydyn. 'Da ni wedi bod yn gigio ers tro ac mae eu hyder yn tyfu. Mae'r genod yn amlygu eu hunain ar yr albwm yma. Nhw sy'n dweud wrtha i be' i 'neud nawr! Mae'n hollol wahanol i be' oeddwn i'n 'neud o'r blaen. Dwi'n ei fwynhau o lot, cael y teulu o gwmpas.

Hon ydi albwm rhif 16. Mae'n anodd meddwl am artist arall yn y Gymraeg sydd mor gynhyrchiol...

Y peth yw dwi'n sgwennu trwy'r amser. Be' dwi'n licio fwya' ydi recordio caneuon. Mae'n grêt mod i'n dal i allu sgwennu a dwi'n sgwennu bob dydd. Dwi'n teimlo nawr tebyg i beth o'n i pan o'n i'n iau yn gigio.

Mae llun ohonot ti yn ifanc ar glawr yr albwm?

Roeddwn i mewn Milk Bar yn Y Bala yn 1967 ac roedd ganddyn nhw jukebox ffantastig 'na ac arno roedd 'Maes B' gan Y Blew a'r flipside 'Beth sy'n dod rhyngom ni'. Roeddwn i'n chwarae hwnna trwy'r amser.

Alcwyn Evans, mab Gwynfor, na'th dynnu'r llun. Nes i ffeindio'r llun mewn bocs sgidiau yn yr atig.

Dwi'n casglu rhai pethau fel picks gitar ond ddim lot. Stwff ydi gelyn pobl dyddia' yma. Mae pobl yn mynd yn depressed os nad ydyn nhw yn medru cael stwff.

Mae Frank Naughton (Stiwdios Tŷ Drwg), cynhyrchydd yr albwm, yn hoff iawn o gasglu hen bethau ac mae ganddo synthezisers o ddiwedd y 60au ac mae o'n chwarae un ar yr albwm.

Rwyt ti'n dal i berfformio yn rheolaidd, pa mor anodd ydi dethol pa rai o'r hen ffefrynnau i'w chwarae?

Mae'n anodd dewis. Mae'n ddylestwydd i chwarae stwff cynnar i blesio'r gynulleidfa. Pan fues i yn gigio y llynedd nes i sylwi mod i yn dal i hoffi y gân gynta' sgwennais i - 'Gobaith Mawr y Ganrif' a 'Crogi Llgoden' oddi ar 'Diwrnod i'r Brenin'.

Cliciwch yma i wrando ar gyfweliad llawn Geraint Jarman ar Raglen Huw Stephens