Adnewyddu ysgol yn Abertawe

Pentre'r Graig Image copyright Google
Image caption Agorodd Ysgol Gynradd Pentre'r Graig yn 2011 wedi i dair ysgol arall uno

Mae'r gwaith ar fin cychwyn o adnewyddu ysgol gynradd yn Abertawe ar gost o £2.7m.

Mae cyngor y ddinas wedi derbyn caniatâd cynllunio i wella ag ymestyn safle Ysgol Gynradd Pentre'r Graig.

Bydd yr ysgol yn cael ei adnewyddu ac fe fydd un adeilad ar y safle yn cael ei ddymchwel fel rhan o'r datblygiad.

Mae'r gost o adnewyddu'r ysgol yn cael ei rannu rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd aelod y cabinet dros addysg ar Gyngor Abertawe, Jen Raynor: "Mae wedi ei gynllunio gan ganolbwyntio ar sut y mae plant yn dysgu orau."