Cartrefi heb gyflanwadau dŵr

Tap Image copyright BBC news grab

Bu rhai cartrefi ym Môn heb gyflenwadau dŵr bore dydd Sul.

Yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yw Gaerwen, Porthaethwy a Llangefni.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru mai "gollyngiad ar ein rhwydwaith dŵr yn Llanfairpwll" oedd yn gyfrifol.

"Mae gennym dîm yn trwsio'r gollyngiad a disgwylir bydd cyflenwadau yn dychwelyd i normal bore yma," meddai'r llefarydd.

"Ymddiheurwn i'n cwsmeriaid am unrhyw anghyfleustra a achosir."