Kendall am weld mwy o ddatganoli

Liz Kendall
Image caption Liz Kendall

Mae Liz Kendall wedi galw am fwy o ddatganoli wrth iddi ddod a'i hymgyrch am arweinyddiaeth y blaid Lafur i Gymru.

Dywedodd pe bai hi'n ennill ei bod yn gaddo gweledigaeth fwy optimistaidd ar gyfer dyfodol Cymru.

Roedd hi'n ymweld â Chaerdydd ddydd Sul.

"Cymru sydd gwybod orau beth sydd ei hangen arni," meddai.

Mae Andy Burnham, un arall sy'n ymgeisio am yr arweinyddiaeth, hefyd yn ymweld â Chymru.

Bydd Mr Burnham yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r blaid yn Wrecsam.

Cymunedau lleol

Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Cymru.

Fe wnaeth y ddau ymgeisydd arall yn y ras - Yvette Cooper a Jeremy Corbyn - ymweld â Chymru yr wythnos diwethaf

Dywedodd Ms Kendall: "Rwy'n llwyr gredu y dylid datganoli gymaint â phosib o bwerau o San Steffan- nid yn unig datganoli grym i'r cynulliad, ond hefyd i gymunedau lleol.

"Cymru sydd gwybod orau pa sgiliau, isadeiladwaith, tai a thrafnidiaeth sydd ei angen yma," meddai.

"Nid Whitehall yw'r lle gorau ar gyfer penderfyniadau o'r fath, ond hytrach pobl Cymru."

"Mae gennyf weledigaeth optimistaidd ar gyfer dyfodol Crymu a dyna beth rwy'n gynnig."

Fe gafodd y papurau pleidleisio ar gyfer ras yr arweinyddiaeth eu dosbarthu i aelodau ddydd Gwener.

Fe fydd rhaid i bleidleiswyr roi rhif wrth bob un o'r pedwar ymgeisydd yn ôl eu dewis, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.

Image copyright Jeff Overs/BBC
Image caption Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Liz Kendall ac Andy Burnham