Llafur: Ymgeiswyr am weld mwy o ddatganoli

Liz Kendall
Image caption Liz Kendall

Mae dau o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur wedi galw am fwy o ddatganoli wrth i ymgyrchu yng Nghymru dydd Sul

Dywedodd Liz Kendall pe bai hi'n ennill ei bod yn gaddo gweledigaeth fwy optimistaidd ar gyfer dyfodol Cymru.

Roedd hi'n ymweld â Chaerdydd ddydd Sul.

"Cymru sydd gwybod orau beth sydd ei hangen arni," meddai.

Roedd Andy Burnham, un arall sy'n ymgeisio am yr arweinyddiaeth, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r blaid yn Wrecsam.

Dywedodd Mr Burnham ei fod am weld mwy o ddatganoli o fewn y blaid Lafur a bod yna "ormod o bwyslais wedi bod ar bethau Llundeinig."

"Rwyf am weld mwy o staff, mwy o arian ar gyfer y blaid Lafur Gymreig. "

Dywedodd hefyd ei fod wedi gofyn i Carwyn Jones gyd-gadeirio confensiwn cyfansoddiadol er mwyn cael setliad terfynol i'r cwestiwn o ddatganoli.

Papurau pleidleisio

"Setliad sy'n rhoi mwy o bwerau i holl wledydd y DU ond sydd hefyd yn sicrhau ein bod yn aros gyda'n gilydd.

"Mae hygrededd economaidd yn ganolig i'r hyn dwi'n ddweud, ni wnawn ennill etholiad oni bai fod pobl a fydd ynom gyda'r economi, ond mae gennyf hefyd gweledigaeth radical ar gyfer llafur."

Fe wnaeth y ddau ymgeisydd arall yn y ras - Yvette Cooper a Jeremy Corbyn - ymweld â Chymru yr wythnos diwethaf

Dywedodd Ms Kendall: "Rwy'n llwyr gredu y dylid datganoli gymaint â phosib o bwerau o San Steffan- nid yn unig datganoli grym i'r cynulliad, ond hefyd i gymunedau lleol.

"Cymru sydd gwybod orau pa sgiliau, isadeiladwaith, tai a thrafnidiaeth sydd ei angen yma," meddai.

"Nid Whitehall yw'r lle gorau ar gyfer penderfyniadau o'r fath, ond hytrach pobl Cymru."

"Mae gennyf weledigaeth optimistaidd ar gyfer dyfodol Crymu a dyna beth rwy'n gynnig."

Fe gafodd y papurau pleidleisio ar gyfer ras yr arweinyddiaeth eu dosbarthu i aelodau ddydd Gwener.

Fe fydd rhaid i bleidleiswyr roi rhif wrth bob un o'r pedwar ymgeisydd yn ôl eu dewis, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.

Image copyright Jeff Overs/BBC
Image caption Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Liz Kendall ac Andy Burnham